Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae un o elfennau allweddol y cynigion a'r cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd yn cynnwys gorfodaeth i sicrhau bod rhestrau 'am yn ail' o ymgeiswyr yn ôl rhywedd ar bapurau pleidleisio etholiadol, er mwyn hyrwyddo gwell cydraddoldeb rhwng y rhywiau yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad dadleuol Llywodraeth y DU i atal Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) rhag dod yn Ddeddf a derbyn Cydsyniad Brenhinol, oherwydd yr amheuon mewn perthynas â materion cydraddoldeb, sydd hefyd yn berthnasol yma i'r Senedd. Yn sgil y datblygiadau i'r gogledd o'r ffin â Lloegr, a wnewch chi ddweud wrthym pa asesiad a wnaed o gymhwysedd y Senedd, o ran Llywodraeth Cymru, a chwotâu rhywedd a rhestrau 'am yn ail'? Ac a wnewch chi gadarnhau a oes gan y Senedd gymhwysedd yn y maes hwn yn eich barn chi?