Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:35, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i osod feto ar hynt Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) yn nodi isafbwynt yn y berthynas rhwng San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig. Dros y 13 mlynedd diwethaf, mae'r Llywodraeth Dorïaidd hon wedi dangos ei diffyg parch amlwg tuag at ddatganoli ar sawl achlysur. Yn hytrach na gweithio'n adeiladol gyda'i phartneriaid datganoledig, mae wedi ymroi i gamau gweithredu unochrog dinistriol, megis Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, sy'n sathru ar gymwyseddau datganoledig.

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi ei asesiad o ddefnydd diweddar Llywodraeth y DU o bŵer adran 35 o dan Ddeddf yr Alban 1998 i rwystro Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (yr Alban), ac yn benodol, goblygiadau'r mesur hwn i'r setliad datganoli yn y DU? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol fynd mor bell â mi a dweud bod y ffordd warthus y mae Llywodraeth y DU yn gwadu ewyllys ddemocrataidd Senedd yr Alban yn tanlinellu ymhellach pa mor gwbl gyfeiliornus yw'r syniad fod y Deyrnas Unedig yn bartneriaeth gyfartal?