Hyrwyddo Senedd Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 25 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:19, 25 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar, Lywydd, am ganiatáu imi gael cyfle i gywiro'r cofnod. Mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ni chafodd ei wneud yn ysgafn, ond anghofiais atgoffa'r Aelodau o fy muddiant fel aelod balch o undeb llafur, wrth ofyn cwestiwn am y streic. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i atgoffa'r Aelodau fod hynny ar gael ar-lein, ond hefyd am y cyfle i ddweud, yn y Siambr ger eich bron ac ym mhresenoldeb y Llywydd, fy mod yn aelod balch o undebau Community ac Unite.