Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelod am godi'r materion pwysig yn y ddadl a'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn gwybod ac yn cytuno bod defnyddio data a thechnoleg ddigidol yn hanfodol wrth ddarparu cyfleoedd sydd o fudd i bobl, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Rydym hefyd yn gwybod y gall ein dibyniaeth gynyddol ar dechnoleg ddigidol gynyddu allyriadau carbon drwy'r ynni a ddefnyddir wrth brosesu a storio llawer iawn o ddata a rhedeg platfformau digidol a thechnoleg—mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau wedi cyfeirio at hyn yn eu cyfraniadau.
Rwy'n cydnabod bwriad polisi'r Aelod yn y cynnig ac yn cytuno â'r teimlad sy'n sail iddo. Mewn gwirionedd, roedd yr Aelod, wrth agor, yn cydnabod bod gwaith eisoes yn digwydd yn y maes hwn. Fodd bynnag, byddai ei gynnwys yn amserlen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn her go iawn, gan ei bod eisoes o dan bwysau sylweddol ac fe allai wynebu mwy o bwysau, yn dibynnu ar ddigwyddiadau allanol.
Mae ein 'Strategaeth Ddigidol i Gymru' eisoes yn mynegi sut y gall technoleg ddigidol helpu i leihau allyriadau carbon yn gyffredinol a chyflawni ein huchelgeisiau sero net drwy gynllunio gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, gan ddefnyddio data'n glyfar ac yn agored, a moderneiddio technoleg. Ac wrth gwrs, mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i roi cynaliadwyedd wrth wraidd pob penderfyniad polisi, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn technoleg ddigidol a data.
O safbwynt y sector cyhoeddus, fel y cydnabuwyd, mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu gwasanaethau digidol effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr. Mae hynny'n golygu defnyddio technoleg yn fwy effeithlon, lleihau'r defnydd o garbon a lleihau'r angen i deithio. Yn ddiweddar, cynhaliodd y ganolfan ymarfer darganfod a gwnaeth argymhellion ar sut y gall technoleg ddigidol helpu tuag at sero net. Maent yn cynnwys pwysigrwydd mesur ôl-troed carbon gwasanaethau a symud at wasanaethau a phlatfformau a rennir. Mae'r ganolfan hefyd yn argymell adeiladu cynaliadwyedd i mewn i brosesau caffael digidol. Mae gwerth cymdeithasol yn dod yn rhan gynyddol o'r meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael, ac mae hynny'n cynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd. Mae'r ganolfan yn gweithio ar y camau nesaf i sicrhau bod yr argymhellion pwysig hyn yn cael eu cyflawni.
Uchelgais allweddol yn ein strategaeth ddigidol yw darparu gwell gwasanaethau digidol drwy ddefnyddio data'n well ac yn fwy moesegol. Mae defnydd cyffredin o safonau y cytunwyd arnynt yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Drwy sicrhau bod data'n hawdd i'w gael ac yn cael ei gyhoeddi'n agored, neu ei rannu'n ddiogel, gallwn leihau faint o ddata sy'n cael ei ddyblygu a'i storio, un o'r pwyntiau allweddol a wnaeth yr Aelod. Mae hyn yn lleihau costau ac ôl-troed carbon. Mae adrodd yn agored ar berfformiad amgylcheddol gwasanaethau hefyd yn sicrhau atebolrwydd a thryloywder o ran y defnydd o ynni.
Fel y gwyddom, mae angen data ar gyfer bron bopeth ar hyn o bryd, ac yn fwy felly yn y dyfodol. Mae canolfannau data, fel y crybwyllodd Sarah Murphy, yn chwarae rhan hanfodol yn storio'r data, y feddalwedd a'r caledwedd sy'n sail i'r gwasanaethau rydym i gyd yn eu defnyddio. Maent yn rhan annatod o'r gadwyn gyflenwi ac maent yn defnyddio ynni a phŵer wrth gwrs. Mae cyfrifoldeb mawr ar gwmnïau i leihau effaith carbon y data sydd ganddynt. Rydym yn gwybod bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â hyn ac yn lleihau'r defnydd o bŵer, gan newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a charbon isel ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd, gan gynnwys y defnydd o wres gormodol wrth gwrs, ac unwaith eto, soniodd Sarah Murphy am hyn yn ei chyfraniad.
Mae hyn yn digwydd yng Nghymru hefyd. Rydym yn disgwyl gweld mwy o ganolfannau data yng Nghymru yn y dyfodol ac eisiau iddynt gael eu hadeiladu i safonau amgylcheddol y presennol a'r dyfodol. Mae ein cynllun ar gyfer lleihau allyriadau, Cymru Sero Net, yn gosod targedau cenedlaethol uchelgeisiol i ni'n hunain. Mae'n amlygu'r rôl y gall seilwaith digidol ei chwarae yn datgarboneiddio, yn ogystal â datgarboneiddio'r cyflenwad ynni ei hun. I gefnogi ein huchelgeisiau, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun sgiliau sero net cyn bo hir; bydd hwnnw'n nodi ein hymrwymiad i sgiliau sero net drwy fuddsoddi mewn pobl a thalent fel elfennau hanfodol mewn economi gryfach, decach a gwyrddach. Bydd sgiliau digidol yn un o'r themâu trawsbynciol.
Bydd ein strategaeth arloesi hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â mesur carbon ac yn tynnu sylw at y defnydd o offer digidol i'n helpu i ddeall yn llawn yr effaith a gawn ar leihau allyriadau carbon. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bod yna ôl troed digidol wrth gwrs, ac mae ôl troed carbon i'r ôl troed hwnnw.
Rwyf am ddiolch i'r Aelod am y ffordd yr agorodd y ddadl drwy gydnabod ein bod yn gweithredu, ac mae'r grŵp trawsbleidiol yn gefnogol at ei gilydd i'r strategaeth ddigidol. Ond mae yna ôl troed carbon real i weithgaredd digidol, ond hefyd, fel y nodwyd, mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth go iawn fod ôl troed carbon i weithgaredd digidol. Rhan o'n her yw'r hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth a gweithredu i fynd i'r afael â hynny.
Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth ychwanegol yw'r ateb. Fodd bynnag, mae yna gydbwysedd i'w daro bob amser o ran pryd y gall deddfwriaeth a phryd nad yw'n gallu sicrhau'r cynnydd polisi rydym i gyd yn cytuno arno. Felly, edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn datblygu'r cynnig ymhellach. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r cynnig heddiw; byddwn yn ymatal a bydd pleidlais rydd i'r aelodau o'r meinciau cefn sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru. Rwy'n credu bod mwy i ni ei drafod am y cynigion sydd wedi'u hamlinellu heddiw, am weithredu ymarferol ac am ein parodrwydd i ystyried hynny yn y dyfodol.