Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 25 Ionawr 2023.
Diolch, Rhun, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi cynigion y Bil hwn, ac rwy'n credu bod angen inni fod yn llawer mwy blaengar yn ein dull o lunio polisi sy'n helpu i leihau ein hôl troed carbon mewn meysydd technolegol, yn enwedig gan y byddwn yn dibynnu'n fwy helaeth ar ddata digidol wrth symud ymlaen. Nid yw ond yn iawn ein bod yn rhoi deddfwriaeth ar waith sy'n helpu i sicrhau ein bod mor effeithlon â phosibl wrth ddefnyddio a storio data a bod gennym brotocolau ar waith, yn enwedig o fewn cyrff cyhoeddus, i rannu data'n well a dileu data nad oes ei angen mwyach.
Fel y byddwch i gyd yn cofio, siaradais yn y Siambr yn ddiweddar am ddata tywyll, a'r gwir amdani yw, er ein bod yn buddsoddi symiau enfawr o arian ar leihau carbon mewn diwydiant, gan annog pobl i newid ymddygiad, yn ogystal â newid y ffyrdd rydym yn cynhesu ein cartrefi ac yn teithio o gwmpas, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â'r broblem amlwg—sef ein bod yn mabwysiadu arferion ac yn croesawu datblygiadau technolegol yn ein bywydau sy'n arwain at gynhyrchu hyd yn oed mwy o garbon deuocsid. Er enghraifft, mae camera ar bron bob ffôn symudol, sy'n ein galluogi i dynnu lluniau a ffilmiau mewn ffordd na allem ei wneud 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn defnyddio apiau sy'n creu data am hwyl, ac rydym yn storio symiau enfawr na fydd byth yn cael eu defnyddio eto. Er fy mod yn cydnabod y dylem wneud popeth yn ein gallu i wella storio a defnyddio data mewn meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt, y gwir anghyfleus yw y bydd symiau sylweddol o ddata'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru a'u cadw ar weinyddion ar draws y byd, ac felly rydym yn cyfrannu at gynhyrchu carbon deuocsid mewn mannau nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt. Er enghraifft, mae data o'n ffonau Apple yn cael ei gadw mewn canolfannau data yn UDA. Rydym yn derbyn niferoedd enfawr o e-byst bob dydd yn hysbysebu hyrwyddiadau na fyddwn byth yn eu darllen, ac mae'r rhain yn cael eu cadw mewn gwledydd eraill ar weinyddion sy'n rhaid eu pweru, ac yn fwy allweddol, sy'n rhaid eu hoeri. Rhaid inni hefyd gydnabod maint y broblem. Yn fyd-eang, mae gan fwy na hanner yr holl fusnesau ddata sy'n segur neu ddata nad yw'n cael ei ddefnyddio, ac amcangyfrifir y bydd 6 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol drwy storio'r data hwn yn unig, ac ni fydd byth yn cael ei ddefnyddio.
I gloi, o ran Bil ar ôl troed carbon digidol, rwyf am ddweud bod angen inni feddwl hefyd ynglŷn â sut y cyfrannwn at ein hallyriadau carbon byd-eang gyda data sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a'i storio dramor, a daw hyn o wella ein dealltwriaeth o sut mae data yn llifo drwy sefydliadau a thrwy greu polisïau sy'n sicrhau bod gan ein cwmnïau yng Nghymru brosesau ar waith sy'n gwella amlygrwydd data tywyll ac sy'n rheoli ein prosesau storio data yn well. Gall y polisïau hyn helpu cwmnïau a sefydliadau wedyn i gydymffurfio ymhellach â deddfau preifatrwydd data, megis y rheoliadau cyffredinol ar ddiogelu data. Mae'n beth da ein bod yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted â phosibl a bod Cymru'n gwneud cyfraniad gwerthfawr, oherwydd amcangyfrifir y bydd y swm o ddata tywyll sy'n cael ei storio'n fyd-eang yn cynyddu bedair gwaith i 91 ZB erbyn 2025, ac mae hynny'n bendant yn tynnu sylw at yr heriau sydd o'n blaenau. Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn annog pob Aelod yma i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.