Part of the debate – Senedd Cymru am 6:27 pm ar 25 Ionawr 2023.
Rôn i allan ar linellau piced y gweithlu ambiwlansys ddydd Llun a dydd Iau diwethaf, yn siarad efo aelodau Unite am eu profiadau, a gofyn pam eu bod nhw wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol. Ac roedd y sgyrsiau efo Fiona, Ludwig, Catrin, Robin a'r gweddill yn werthfawr. Roedd eu hatebion yn drawiadol, a phob un yn dweud yr un peth. Roedd cyflog a'r chwyddiant diweddar yn rhan o'r mix. Roedd amgylchiadau gwaith yn rhan bwysig arall. Ond yr un peth roedden nhw oll yn teimlo'n gryf yn ei gylch oedd gofal y claf—yr angen i sicrhau ein bod ni, y cleifion, yn ddiogel ac yn cael y gofal gorau posib. Maen nhw'n gweld ac yn profi'r argyfwng yn y gwasanaeth iechyd yn ddyddiol, oherwydd y pryderon yma am ein hiechyd ni, y cleifion. Maen nhw wedi dewis mynd i yrfa o ofal, ac oherwydd y gofal yma sydd yn eu cyflyru, maen nhw'n barod i golli dyddiau o gyflog a'r buddiannau a ddaw yn sgil hynny er mwyn sicrhau ein bod ni'n derbyn y gofal gorau. Dyna i chi solidariti, a diolch amdanyn nhw.
Roedden nhw'n awyddus i ddadansoddi'r argyfwng iechyd, gan adrodd o'u profiadau personol, gan sôn am ddechrau sifft drwy fynd yn syth i ambiwlans a oedd yn segur y tu allan i ysbyty cyffredinol, a gorffen y sifft yn yr un ambiwlans, yn yr un ysbyty, efo'r un claf. Roedden nhw'n sôn am gleifion yn gorwedd ar drolïau nad oedd yn addas i glaf fod arnynt am oriau di-ben-draw. Roedd eu profiad oll yn peintio darlun clir o argyfwng. Ond, roedden nhw'n eithaf clir hefyd ynghylch un o brif wreiddiau'r broblem yma, sef y diffygion sylfaenol yn ein gallu i ddarparu gofal cymdeithasol. Er gwaetha'r ffaith eu bod nhw am weld gwella ar eu telerau a'u cyflogau, roedden nhw'n gwbl glir bod gofalwyr cymdeithasol yn haeddu cynnydd sylweddol, a bod yna ddiffyg parch tuag atyn nhw.
Mae dybryd angen diwygio gofal cymdeithasol a mynd i'r afael â gofal integredig unwaith ac am byth. Oherwydd mae yna un ffaith ddiymwad—mae Cymru yn heneiddio, a byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y ganran o bobl oedrannus dros y blynyddoedd nesaf a fydd angen mwy o ofal yn y gymuned. Mae'n rhaid i ni wynebu hyn a pharatoi ar gyfer hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ysbyty yn y cartref a sicrhau gofal meddygol arbenigol cymunedol ar draws Cymru. Rydym ni eisoes wedi colli nifer o welyau ysbyty cymunedol, sydd wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol ac sydd, yn ei dro, yn arwain at gynnydd yn yr heintiau sy'n cael eu lledaenu yn yr ysbytai—nid C. difficile yn unig ond heintiau fel ffliw a COVID. Ac mae pobl hŷn yn fwy tueddol o ddal y clefydau yma yn eu gwendid. Cofiwch fod canran mawr o'r bobl gafodd COVID, yn enwedig yn yr ail don mwy niweidiol, wedi'i ddal yn yr ysbyty, a bod tua dau o bob pump o'r bobl yma wedi marw. Dyna pam bod yn rhaid datblygu capasiti cymuendol. Ar adeg o bandemig, epidemig, neu hyd yn oed pwysau gaeafol, mae'n angenrheidiol trio cadw'n pobl hŷn allan o'n hysbytai cyffredinol a'u cadw yn y gymuned.
Er mwyn gwella'r sefyllfa, mae'n rhaid ymhelaethu'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol er mwyn galluogi gwasanaeth mwy cyson ar draws Cymru, wedi'i halinio i'r gwasanaeth iechyd. Felly, gadwech inni edrych ar un enghraifft o arfer da: mae tîm gofal canolraddol Caerfyrddin wedi torri tir newydd. Dyma ichi farchoglu yn y gymuned, sydd yn darparu ystod o wasanaethau gofal a iechyd yn arbennig ar gyfer pobl hŷn, eiddil a bregus. Mae'r model yn gweithio yn amlasiantaeth, gan gynnwys cydweithio di-dor rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal, ynghyd ag asiantaethau eraill a'r trydydd sector yn sir Gâr, a'u blaenoriaeth ydy ataliaeth a sicrhau ymyrraeth gynnar. Gall pobl gael mynediad i hybiau cymunedol am asesiadau, am gyngor, cymorth a thriniaethau, neu all y tîm fynd allan i gartrefi pobl. Dyma ichi esiampl o'r egwyddorion craidd ar waith ac arfer da y gellir ei rannu ar draws Cymru, a fydd yn tynnu pwysau oddi ar yr ysbytai cyffredinol.
Os ydyn ni am gael pobl adref ynghynt a lleihau y niferoedd sydd yn mynd i'r ysbyty, yna mae'n rhaid hefyd gwella y ddarpariaeth o adnoddau ar gyfer cleifion sydd ddim angen gofal acìwt. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid hefyd cael gwell cydlynu efo awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod asesiadau gofal amserol yn cael eu gwneud. Heb hyn, yna'r hyn sydd gennym ni ydy rhywbeth sy'n ymdebygu i ddrws sy'n troi drwy'r amser, gyda chleifion yn cael eu gyrru adref cyn gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty eto ychydig wedyn. Mae datrys yr elfen gymunedol yn allweddol os ydyn ni am fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd, neu mi fyddwn ni yn parhau i weld y staff yn digalonni, yn gadael, a'r gwasanaethau iechyd a gofal yn chwalu o dan y pwysau. Diolch.