Datganiad y Llywydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Anaml y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon yn sylweddoli y gall yr hyn sy'n achosi poen i un ohonom, achosi poen i bob un ohonom. Yn yr achos hwn, mae'r hyn sy'n achosi poen i'r Prif Weinidog wedi cyffwrdd â llawer o bobl ledled Cymru. Pan dorrodd y newyddion ddydd Sadwrn, y person cyntaf i ofyn i mi estyn ei chydymdeimlad i'r Prif Weinidog, drwy anfon neges ataf, oedd nyrs ym Mronglais. 

Mae Mark a'i deulu yn ein calonnau a'n gweddïau y prynhawn yma. Bydd llawer wedi adnabod Clare yn dda. Fe godwn ni nawr i gofio am Clare, ac mewn cariad a chefnogaeth i'n Prif Weinidog a'i deulu.