Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch, Llywydd. Diolch i chi i gyd am y foment yna o fyfyrdod er cof am Clare Drakeford ac i gydnabod ei bywyd. Rwy'n gwybod bod meddyliau pawb yn y Senedd, ac ar draws Cymru, gyda'n Prif Weinidog a'i deulu ar yr adeg drist iawn hon, ac rwy'n gwybod y bydd yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.