Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 31 Ionawr 2023.
Wel, ni ddylai'r Senedd yma gefnogi'r LCM yma ar unrhyw gyfrif. Byddai cefnogi'r cynnig yn bradychu ffermwyr Cymru, ac yn gadael ein sector amaethyddol yn agored i gael ei thanseilio'n llwyr gan gynhyrchwyr cig coch o ben draw'r byd.
Mae gan y Llywodraeth yma sawl polisi blaengar, megis targedau uchelgeisiol amgylcheddol, polisïau caffael lleol, heb sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, ymhlith eraill. Byddai galluogi'r cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw yn mynd yn groes i bob un o'r polisïau yma. O siarad efo bwtsieriaid Cymru, mae yna gynnydd sylweddol yn y cig oen sydd yn dod yma o Aotearoa eisoes, ac mae canlyniad hyn yn amlwg heddiw wrth inni weld pris ŵyn i lawr yn sylweddol ar ble roedden nhw flwyddyn yn ôl. Mae'r cytundeb yma am arwain at gwymp sylweddol yn GVA amaeth Cymru—£50 miliwn o bunnoedd yn ôl amcangyfrifon Undeb Amaethwyr Cymru, heb sôn am y miliynau sydd wedi cael eu colli wrth i Lywodraeth San Steffan beidio â chadw at ei gair ynghylch digolledion amaeth yn sgil Brexit.
Yn wir, mae amaethwyr rwy'n siarad â nhw yn Awstralia ac yn Aotearoa yn methu â chredu eu lwc fod y Deyrnas Gyfunol wedi cytuno ar gytundeb sydd mor unochrog o'u plaid nhw. Ein ffermydd bach ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru—dyna ddywedodd Samuel Kurtz neithiwr. Dwi'n cytuno'n llwyr efo fo. Ond yn fwy na hynny, maen nhw'n greiddiol i barhad yr iaith a'n diwylliant. Fedrwn ni ddim â throi ein cefnau arnyn nhw. Mae'n rhaid cefnogi'r sector a sicrhau bod ffermydd bach Cymru yn parhau i frithio tirwedd godidog Cymru wrth iddyn nhw warchod a meithrin ein tirwedd. Fedrwn ni ddim bradychu ein ffermwyr drwy ddangos unrhyw fath o gefnogaeth i'r cytundeb rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Awstralia ac Aotearoa. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddod â'u Bil eu hunain ymlaen? Diolch yn fawr iawn.