10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:37, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig o'n blaenau. Rwy'n ei chael hi'n anodd, neu'n siomedig wrth fynd i'r afael â'r cynnig hwn, sy'n ymwneud â Bil yn gweithredu'r cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, ein bod ni unwaith eto yn gorfod trafod achos arall lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad gan y Senedd i Fil sy'n cynnwys pwerau cydredol na wnaiff Llywodraeth y DU gynnwys pwerau cyfatebol ar eu cyfer i Weinidogion Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno'r cynnig i sicrhau y gall y Senedd archwilio'r materion yn ymwneud â'r Bil a gwneud penderfyniad ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn y memorandwm, ein bod ni'n argymell gwrthod cydsynio. Ceir rhesymau cyfreithiol a chyfansoddiadol da dros hyn.

Bydd yr Aelodau yn gweld bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymal 1 yn ganolog i'r Bil ac yn rhoi pwerau i bob un o bedair Llywodraeth y DU. I'r graddau y rhoddir y grym i Weinidogion Cymru, mae'r Bil hwn o fewn cymhwysedd y Senedd ac mae'n fater datganoledig yn unol ag ystyr adran 107(6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r holl ddarpariaethau eraill yn y Bil yn dilyn o'r pwerau a nodir yng nghymal 1, ac, o'r herwydd, mae bron i holl ddarpariaethau'r Bil angen cydsyniad.

Mae swyddogaeth y Bil ei hun yn weddol gul a thechnegol ei natur gan y byddai'n rhoi'r grym i Lywodraeth y DU, yn ogystal â Gweinidogion Cymru, wneud newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o rwymedigaethau caffael Llywodraeth y DU o dan y cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd. Mae'n rhaid i'r Bil hwn gael ei basio a derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn i'r cytundebau ddod i rym i sicrhau nad yw'r DU yn mynd yn groes i'w rhwymedigaethau a nodir yn y cytundebau hynny. Fodd bynnag, bydd y Bil hwn wedyn yn cael ei ddiddymu gan Fil arall sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd—y Bil Caffael. Mae'r ail Fil hwn hefyd angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Ac mae memorandwm llythyr cydsynio i'r Bil hwnnw eisoes wedi'i gyflwyno i'r Senedd ac wrth gwrs bydd yn destun ei ddadl ei hun maes o law. Fel y dywedais, er gwaethaf y teitl, mae swyddogaeth y Bil yn gul.

Mae'r newidiadau sydd eu hangen i'n system gaffael o ganlyniad i gytundebau masnach rydd Awstralia a Seland Newydd yn fach a thechnegol eu natur a chawsant eu trafod yn llawn gyda swyddogion cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno yn ystod trafodaethau. Gwn fod gan rai Aelodau safbwyntiau ehangach ar y cytundebau masnach hyn, ond o ran y newidiadau sydd eu hangen o ran caffael nid oes gen i unrhyw faterion sy'n peri pryder. Mae fy mhryderon am y Bil hwn yn ymwneud yn llwyr â natur y pwerau y mae'n eu cynnwys. Er gwaethaf trafodaethau helaeth ar lefel weinidogol a swyddogol, mae Llywodraeth y DU wedi parhau i wrthod ein galwadau i bwerau cyfatebol gael eu cynnwys ar wyneb y Bil ac mae'n amharod i roi pwerau cyfatebol neu gydredol plws.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig cyn defnyddio'r pwerau, ond, fel y clywodd y ddadl yn ystod yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, nid materion i ymgynghori arnyn nhw'n unig yw materion datganoledig. Rydym ni'n credu nad oes unrhyw reswm pam na ellid fod wedi cynnwys pwerau cyfatebol neu gydredol plws, o leiaf, yn y Bil hwn. Nid yw dull presennol Llywodraeth y DU yn gyson ag egwyddor datganoli, ac, fel y mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn eglur, pwerau cyfatebol ddylai fod yr opsiwn diofyn pan fydd materion sy'n effeithio ar ddatganoli yn codi.

Er bod gen i bryderon ynghylch rhywfaint o gynnwys y cytundebau hyn, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, a'i effaith bosibl ar rai o'r sectorau, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur i Lywodraeth y DU na fyddem ni'n ceisio arafu na rhwystro gweithrediad y cytundebau masnach a sicrhawyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ei rhan i gydymffurfio â rhwymedigaethau cytundebau rhyngwladol o'r fath.

Dyma'r ail Fil a gyflwynwyd yn benodol i weithredu polisi masnach newydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hymadawiad â'r UE. Yn achos y Bil Masnach gwreiddiol, fe wnaethom ni argymell y dylid rhoi cydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, roedd y Bil hwnnw'n ymwneud â pharhau cytundebau masnach presennol yr oeddem ni'n rhan ohonyn nhw fel aelod o'r UE yn unig. Cawsom reswm i gredu ar y pryd gan Lywodraeth y DU na fyddai hyn yn gosod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. Nid ydym yn dymuno i'r cynsail tybiedig hwn barhau yn achos y Bil hwn. Gwn fod y pryder hwn yn cael ei rannu gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ysgrifennodd y pwyllgor ataf ym mis Gorffennaf 2022 i amlinellu eu pryderon bod y dull a fabwysiadwyd i ddefnyddio pwerau cydredol yn y Bil hwn mewn perygl o osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol ac ar gyfer cytundebau masnach. Rwy'n cytuno â'u hasesiad. Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw welliannau i'r Bil a fyddai'n cynnwys newid i'r pwerau cydredol a gynigir. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am eu gwaith parhaus yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi argymhelliad y Llywodraeth a, pan ddaw'n amser pleidleisio, gwrthod cydsyniad.