Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 31 Ionawr 2023.
Gweinidog, mewn datganiad ysgrifenedig dyddiedig 19 Ionawr ar ddiogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gweinidog y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy
'"ddull glasbrint" ar y cyd, ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys yr heddlu a’r sector arbenigol.'
Un o'r ffrydiau gwaith glasbrint yw aflonyddu ar y stryd a diogelwch mewn mannau cyhoeddus, gan ddarparu pwyslais ac arbenigedd ar gyfer dull arloesol o ymdrin â'r materion hyn. Ar hyn o bryd yng Nghasnewydd—ardal rwy'n ei chynrychioli yn Nwyrain De Cymru—mae pob yn ail olau LED yn y ddinas yn cael ei ddiffodd o hanner nos tan 6 y bore. Ond mae cyngor Llafur Casnewydd yn ystyried diffodd y 19,000 o oleuadau, ac eithrio mewn 'safleoedd allweddol o ran diogelwch', dros nos, mewn ymgais i dorri costau. Ar ben hynny, ers diwedd 2019, mae goleuadau stryd ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi eu diffodd bob nos rhwng hanner nos a 5.30 y bore. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, bod diffodd goleuadau stryd yn y nos yn gwrthdaro'n uniongyrchol â nodau strategaeth eich Llywodraeth i helpu menywod a merched i deimlo'n ddiogel ar ein strydoedd? Ac a fyddwch chi'n codi'r mater hwn gyda'r awdurdodau lleol dan sylw, wrth symud ymlaen? Diolch.