Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 31 Ionawr 2023.
Dim ond gweithredu unedig o bob rhan o gymdeithas all ddod â chamdriniaeth i ben a sicrhau bod pawb yng Nghymru wir yn gallu byw heb ofn. Mae ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, VAWDASV, yn nodi ein nodau, a bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i weithio'n agos gyda holl gyd-Weinidogion y Cabinet i sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni.