Adnewyddu Economaidd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:42, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n anghytuno â'r Aelod yn ddirfawr nad yw Cymru'n lle deniadol i wneud busnes ac i ddod â busnesau newydd yma. Rwy'n credu bod angen i chi edrych ar ein hanes blaenorol a hefyd y gwaith mae Banc Datblygu Cymru wedi ei wneud. Soniais am y rhaglen gwella cynhyrchiant busnes sydd wedi'i chyflwyno'n ddiweddar sy'n denu busnesau newydd. Unwaith eto, cyfanswm nifer y swyddi sydd wedi'u creu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn etholaeth Rhianon Passmore oedd 621 o swyddi, gyda 220 o fusnesau newydd yn cychwyn, ac wedi darparu cefnogaeth bwrpasol i 1,102 o fusnesau yng Nghaerffili.