Diogelwch Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:00, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Felly mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym ni'n hyrwyddo diogelwch bwyd trwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaethyddiaeth, a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.