Diogelwch Bwyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:05, 31 Ionawr 2023

Mae'n hanfodol er mwyn diogelwch bwyd ein bod ni yn hybu a gwarchod cynhyrchiant bwyd, ond hefyd yn hybu a gwarchod prosesu bwyd. A dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog, yn ei rôl fel Gweinidog materion gwledig a bwyd, ynghyd â'r Gweinidog yr Economi, am gytuno i'm cyfarfod i yn ddiweddarach heddiw yma i drafod y camau brys sydd eu hangen yn wyneb y cyhoeddiad ar yr ymgynghoriad ar gau gwaith 2 Sisters Food Group yn Llangefni. Mae angen camau brys. Mi ydw i'n glir bod angen camau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth, ac mae'n frawychus gweld, o San Steffan heddiw, dyw'r Exchequer Secretary to the Treasury yn amlwg ddim hyd yn oed yn gwybod bod yna 700 o swyddi dan fygythiad yn Llangefni, sy'n dangos bod Ynys Môn wedi cael ei anwybyddu dros yr wythnos diwethaf yno. Ond ydy'r Gweinidog yn cytuno â fi bod angen sicrhau bob modd o ddod â buddsoddiad rŵan i mewn i gynhyrchu bwyd yn Ynys Môn, helpu busnesau presennol i dyfu, hefyd gwneud y math o fuddsoddiad dwi wedi gwthio amdano fo am barc cynhyrchu bwyd, er enghraifft, er mwyn gwneud yn siŵr bod y sector yma yn cael yr hwb mae o ei angen? Mae hwn yn gryfder gennym ni y gallem ni adeiladu arno fo yn Ynys Môn.