Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 31 Ionawr 2023.
Yn bendant. Os gofynnwch chi i unrhyw un, 'Beth mae ffermwyr yn ei wneud?', dyna'r peth cyntaf y byddan nhw'n ei ddweud, 'Maen nhw'n cynhyrchu ein bwyd.' A bydd Jane Dodds yn gwybod wrth wraidd y Bil mae'r amcan i sicrhau cynaliadwyedd ein ffermydd ac mae'n cydnabod amcanion cydategol cefnogi ffermwyr wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a hynny ochr yn ochr â'r ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Unig ddiben y Bil Amaeth ac, yn amlwg, y cynllun ffermio cynaliadwy, sy'n cael ei gynhyrchu ochr yn ochr, yw sicrhau bod ein ffermwyr yn aros ar y tir a bod y tir hwnnw yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.