Gwasanaethau Arbenigol Meddygol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

5. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arbenigol meddygol ymhellach ledled Cymru? OQ59055

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei disgwyliadau mewn cyfres o ddatganiadau o safon sy'n disgrifio ffurf gwasanaethau clinigol da. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yng ngweithlu'r GIG yng Nghymru drwy gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:10, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Bythefnos yn ôl, cwrddais ag un o fy etholwyr iau, Elliot, a'i fam, Lucy. Mae'r ddau yma yn y Senedd heddiw yn yr oriel gyhoeddus yn gwylio'r trafodion. Mae Elliot yn bum mlwydd oed ac yn dioddef o gyflwr prin o'r enw nychdod cyhyrol Duchenne, anhwylder genetig sydd â'r nodwedd o golli cyhyrau yn raddol. Fel rhan o'i driniaeth, Gweinidog, mae Lucy yn awyddus iawn bod Elliot yn cael cyfle i gael mynediad at dreialon clinigol. Ar hyn o bryd, does dim capasiti yng Nghymru i gynnal treialon clinigol o'r fath. Does dim arbenigwr niwrogyhyrol yn ne Cymru. Mae treialon yn cael eu cynnal yng ngogledd Lloegr, ond yn aml iawn plant yn y rhan honno o'r wlad sy'n elwa, oherwydd logisteg teithio a thriniaeth a ffactorau eraill. Gweinidog, mae Lucy yn gweithio'n galed i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr hwn a'r angen am fwy o ymchwil a thriniaeth well. Felly, sut gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda Lucy i helpu Elliot, ac yn wir, i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc eraill yng Nghymru sydd â'r cyflwr hwn?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:11, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n hyfryd gweld Lucy ac Elliot i fyny yn yr oriel gyhoeddus. Rwy'n gobeithio bod Elliot yn cael y gofal sydd ei angen arno a'n bod yn gweld cynnydd o ran datblygu triniaethau yn y maes hwn. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi arweinydd arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer clefydau niwroleg a niwroddirywiol, ac mae hynny er mwyn gallu agor astudiaethau ar draws ystod o glefydau niwrolegol a niwroddirywiol. Gall cymryd rhan mewn treialon ymchwil roi mynediad at ofal a thriniaeth na fyddai efallai ar gael fel arall, felly gallaf ddeall yn llwyr pam mae Lucy eisiau i Elliot gyfrannu at dreialon clinigol a chymryd rhan mewn treialon clinigol. Os nad yw'r treialon ymchwil hyn ar gael yng Nghymru, gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hwyluso mynediad cleifion i dreialon mewn rhannau eraill o'r DU. Yr hyn rwy'n credu byddai o fudd, fyddai i Lucy gyfarfod ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drafod y materion hynny a'i phryderon. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:12, 31 Ionawr 2023

Mae cwestiwn 6 [OQ59058] wedi'i dynnu yn ôl. Felly, cwestiwn 7, Sarah Murphy.