Cyllid Ffyniant Bro

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:17, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Trefnydd. Yn ddiweddar dywedodd yr arbenigwr ar drafnidiaeth gyhoeddus, Mark Barry, bod y cyfraniad o £50 miliwn tuag at linell cledrau croesi Caerdydd dim ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â'r £500 miliwn sydd ei angen er mwyn i'r llinell cledrau croesi fynd o Fae Caerdydd i Lantrisant. Dyw e ddim chwaith yn helpu gydag annigonolrwydd y gwasanaeth—dim bod â phedwar trên yr awr o hanner gorsafoedd Caerdydd oherwydd diffyg seilwaith. Fel y gwyddoch chi Gweinidog, mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu'r gwasanaethau hynny, ond wrth gwrs maen nhw'n cael eu cyfyngu gan y seilwaith, gan Network Rail. Mae'n amlwg, hyd yn oed i fy ffrindiau, fy nghyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig, bod Cymru ar ei cholled pan ddaw hi i seilwaith y rheilffyrdd. A all Llywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda, ofyn i Lywodraeth y DU ddarparu arian digonol ar gyfer cwblhau'r llinell cledrau croesi o Fae Caerdydd i Lantrisant a'r arian sydd ei angen er mwyn cynyddu lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ym mhob gorsaf yng Nghaerdydd? Diolch yn fawr.