Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd prosiect Porth Wrecsam. Rydym ni'n cynnal trafodaethau brys gyda'n partneriaid i asesu effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi'r Porth yn y rownd ariannu ffyniant bro ddiweddaraf, a nodi ffyrdd amgen o sicrhau'r manteision y gallai prosiect y Porth eu darparu ac y dylai eu darparu.