Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 31 Ionawr 2023.
Mae'r penderfyniadau ynglŷn â lleihau bancio ar y stryd fawr yng Nghymru yn rhai sydd yn nwylo'r prif fanciau manwerthu. Rydw i'n cymeradwyo'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan nifer o bobl, gan gynnwys y rhai yn Ninbych, i gadw cangen banc. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i wireddu ein huchelgais o ran bancio cymunedol yng Nghymru.