Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i gael cyfle unwaith eto i godi'r mater o ddarpariaeth bancio yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi'i drafod droeon ar lawr y Siambr yma. Mae'n un sy'n effeithio ar bob cornel o Gymru. Bydd y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o fy ymgyrch hirsefydlog i ddod â changen banc cymunedol cyntaf Cymru i Fwcle yn fy etholaeth fy hun. Yr hyn sy'n amlwg, Gweinidog, yw bod consensws a chefnogaeth drawsbleidiol amlwg dros sefydlu cynnig beiddgar Llywodraeth Cymru o fanc cymunedol, ond mae'n bwysig ein bod ni nawr yn darparu'r cynnig beiddgar hwnnw. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a fydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau y bydd Banc Cambria yn cael ei symud ymlaen cyn gynted â phosib?