Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 31 Ionawr 2023.
Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i ymgysylltu â'n cymheiriaid allweddol yn Llywodraeth y DU. Fe wnes i gyfarfod â Gweinidogion o'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yr wythnos ddiwethaf, pan godais ddur fel mater. Rydym ni hefyd yn ymgysylltu ag uwch gynrychiolwyr y sector dur yng Nghymru, ar ochr busnes ac undebau llafur. Rydym ni'n parhau i gredu, yn Llywodraeth Cymru, ym mhwysigrwydd sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r sector dur strategol bwysig yng Nghymru fel rhan o'r hyn y dylid ei weld fel gallu sofran y DU.