Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 31 Ionawr 2023.
Gwnaf. Rwy'n hapus iawn i barhau i gydweithio gyda'm swyddogion, a'r cwmni, a'r swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU os gallwn ni ddod o hyd i ateb ar gyfer y safleoedd yng Nghasnewydd a Thredegar. Rydyn ni eisiau gweld fod gan y sector dur ddyfodol iach. Os na allwn ni greu a chynhyrchu'r dur hwnnw ein hunain, byddwn ni yn y diwedd yn ei fewnforio o rannau eraill o'r byd, gyda mwy o risg o ran anwadalwch pris, cyflenwad, ac, wrth gwrs, ein dealltwriaeth o ôl troed carbon y cynhyrchiad dur hwnnw. Un o'r pethau positif yw bod y gweithlu'n deyrngar i'r safle ac i'w gweithle. Mae her yno am gynnal yr ymdeimlad hwnnw o undod. Os gallwn ni helpu i sicrhau dyfodol economaidd a chynaliadwy i'r safle, yna rwy'n sicr yn hapus i barhau i weithio mor galed ag y gallwn ni i wneud hynny.