3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol sydd ar gael i fentrau bach a chanolig sy'n ceisio ehangu yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ59053
Diolch am y cwestiwn.
Mae ein gwasanaeth Busnes Cymru yn rhoi mynediad i fusnesau at ystod eang o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth, yn ariannol a heb fod yn ariannol, i helpu i dyfu busnesau. Mae cymorth ariannol rhwng £1,000 a £10 miliwn ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru i helpu busnesau Cymru gael y cyllid maen nhw ei angen i ehangu.
Diolch, Weinidog. Ces i'r pleser o ymweld â chwmni NappiCycle yng Nghapel Hendre yn ddiweddar, lle cefais i gyflwyniad hynod o ddiddorol ar ailgylchu cewynnau. Nawr, rwy'n derbyn efallai nad yw hyn yn swnio'n brynhawn cynhyrfus, ond roedd y lefel o arloesedd gan y cwmni'n wych. Trwy brosesau amrywiol, mae NappiCycle yn defnyddio cewynnau brwnt a deunyddiau tebyg a'u troi i mewn i asphalt ar gyfer palmentydd a hewlydd. Mae'r busnes yn rhan o glwstwr ailgylchu yng Nghymru sy'n arwain y byd, a dweud y gwir, yn rhyngwladol, ac wedi gwneud ers rhai blynyddoedd. Wedi i'r busnes dderbyn cyllid o ran 1 y small business research initiative, menter ymchwil y busnesau bach, mae'r cwmni, fel sawl un arall sydd wedi tyfu dros y cyfnod, yn edrych ymlaen at gyllid i ehangu'r busnes ymhellach. Felly, a all y Gweinidog ddatgan a fydd rhan 2 o SBRI yn mynd yn ei flaen, a rhoi gwybodaeth am unrhyw gyfleoedd eraill i gefnogi'r sector yma?
Yn rhyfedd ddigon, roeddwn i'n ymwybodol o gewynnau yn cael eu troi'n asffalt. Nid rhywbeth y byddai rhiant cymharol newydd arall â diddordeb ynddo, o ystyried bod gan yr Aelod ddau blentyn ifanc yn ei dŷ; rwy'n cofio'r dyddiau'n dda, a ddim cystal ar wahanol adegau, realiti newid cewynnau. Ond mae cyfle i feddwl sut y gallwn ni ddefnyddio cynnyrch i'w troi'n rhywbeth defnyddiol a gyda phwrpas gwahanol yn y dyfodol, ac mae hyn, efallai, yn esiampl amlwg a diddorol. Bydden i'n fwy na hapus i ddod yn ôl at hyn. Mae disgwyl i mi wneud penderfyniad ar SBRI 2 a'r dewisiadau i'w gwneud ynghylch hynny. Rydym ni'n gweithio ar y cyd, wrth gwrs, ar strategaeth arloesi hefyd. Fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod am gyfleoedd i'r cwmni y mae'n sôn amdano yn ei etholaeth yn ogystal â'r pwynt ehangach ar sut rydym ni'n helpu busnesau bach i gael mynediad at gyfleoedd i dyfu ac i arloesi yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.