Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rydym ni'n parhau i wneud popeth posibl i gefnogi'r sector BBaCh ledled Cymru drwy ein polisïau economaidd blaengar. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar sgiliau gwell, swyddi gwell a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gyda'r offer sydd ar gael i ni. Mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'n rhanddeiliaid, ac wrth gwrs, byddwn yn dathlu 10 mlynedd o'n rhaglen cymorth busnes Busnes Cymru yn fuan.