Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 31 Ionawr 2023.
Mae hi'n hynod o anodd, wrth gwrs, sicrhau bod y Llywodraeth yn gallu cynllunio yn effeithlon, o ran y gallu i ymdrin â'r niferoedd sydd ag angen gofal deintyddol yng Nghymru, os nad yw'r Llywodraeth na'r byrddau iechyd yn gwybod faint o bobl sy'n aros am apwyntiad GIG. Rwy'n gwybod y byddech chi'n cytuno â'r safbwynt hwnnw, Gweinidog. Mae hi'n annerbyniol hefyd, wrth gwrs, y gallai pobl, pan fyddan nhw ar restr aros, fod yn aros hyd at 26 mis cyn cael apwyntiad hefyd. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi roi ystyriaeth i'r dewisiadau sydd yna ar gyfer rhestr aros ganolog i Gymru gyfan? Rwy'n gwerthfawrogi y byddai hynny'n cymryd peth amser i'w roi ar waith, felly, fel mesur dros dro, a fyddech chi'n ystyried sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn tynnu rhestr aros ganolog ar gyfer ei ddalgylch ei hun? Ac os ydych chi'n cytuno â hynny, pryd ydych chi'n credu y gellid rhoi hynny ar waith?