Gofal Deintyddol y GIG

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal deintyddol y GIG? OQ59040

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:54, 31 Ionawr 2023

O dan drefniadau diwygio'r contract, mae practisys deintyddol yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac ymateb i angen, yn hytrach na rhoi archwiliad rheolaidd bob chwe mis i bob claf. Yn sgil y newid yma, mae mwy na 123,000 o gleifion newydd yng Nghymru wedi cael gweld deintydd NHS hyd yma eleni.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Rydych chi'n gwybod bod deintyddiaeth y GIG yn rhywbeth yr ydw i wedi ei godi gyda chi dro ar ôl tro yn y Siambr hon. Rwy'n pryderu o glywed eto ein bod ni'n clywed am yr apwyntiadau ychwanegol hyn—120,000 a glywsom ni'n flaenorol, a 130,000 rwy'n credu y dywedoch chi'r tro hwn—

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

123,000, mae'n ddrwg gen i. Diolch i chi am fy nghywiro. Yn fy sgyrsiau gyda deintyddion a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, rwy'n clywed na allan nhw gynnig yr apwyntiadau hynny ar gyfer cleifion newydd mewn gwirionedd gan nad oes gan y deintyddfeydd y gallu i wneud hynny. Mae cleifion presennol, medden nhw, yn wynebu oediadau pellach oherwydd mae hi'n debygol y bydd angen gwaith dilynol sylweddol ar gleifion newydd. Rwy'n cael gwybod bod llawer o ddeintyddfeydd, sy'n methu â chyrraedd nodau eu cytundebau nhw, yn gweld eu cyllid nhw'n cael ei grafangio yn ei ôl gan fyrddau iechyd ac, o ganlyniad i'r ansicrwydd, yn lleihau eu hymrwymiad nhw neu hyd yn oed yn achosi iddyn nhw ymadael â gwaith deintyddol y GIG yn gyfan gwbl. Tybed a gaf i ofyn i chi, pan ydych chi'n dweud bod 120,000 o apwyntiadau newydd, ai apwyntiadau newydd yw'r rhain mewn gwirionedd neu'r cyllid cyfatebol yn unig? A wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i drafod hyn ymhellach? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:56, 31 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. 123,000 o apwyntiadau newydd yw'r rhain sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Bu llawer o siarad ynghylch hyn, ond dyma'r ffeithiau, mae gennym ni 74,000 o gleifion newydd sy'n oedolion sydd wedi cael eu gweld mewn gwirionedd, a 49,000 o blant newydd sydd wedi cael eu gweld nad oedden nhw wedi cael eu gweld o'r blaen. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n cyflwyno rhywbeth newydd, fe fydd yna ychydig o anhawster a straen ar y system. Yn amlwg, os ydym ni am dalu pobl i wneud gwaith, mae angen iddyn nhw gyflawni'r gwaith hwnnw, ac os nad ydyn nhw'n cyflawni'r gwaith hwnnw, ydym, rydym ni am gael ein harian yn ei ôl. Nid wyf i am ymddiheuro am hynny, gan mai ni sydd â chyfrifoldeb am arian trethdalwyr hefyd. Honno yw'r fargen. Rydych chi'n talu am wasanaeth, os nad ydych chi'n darparu'r gwasanaeth hwnnw, 'chewch chi ddim mo'ch talu. Felly, efallai nad ydyn nhw'n hoffi hynny, ond dyna'r sefyllfa, mae arnaf i ofn. Y ffaith yw bod llai na 20 cytundeb, mewn gwirionedd, wedi cael eu rhoi yn eu holau allan o'r 413 sy'n bodoli yng Nghymru. Felly, fel dywedais i, fe geir llawer o siarad, ond mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o bobl—y mwyafrif llethol o ddeintyddion—wedi trosglwyddo i'r cytundeb newydd hwn.

Wrth gwrs, mae hi'n haws archwilio rhywun sydd â dannedd iach bob chwe mis na gweld rhywun o'r newydd sydd efallai heb gael ei weld ers amser maith ac yna'r angen i'w weld gyda gwaith mwy manwl wedyn. Ond rydym ni'n gwneud hyn yn fwriadol iawn. Mae angen i bobl sydd heb weld deintydd ers amser maith fynd i weld deintydd. Felly, nid wyf i am ymddiheuro am y cytundeb y gwnaethom ni ei roi ar waith. Yr hyn a ddywedwn i yw fy mod i, wrth gwrs, yn hapus i gyfarfod â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain—rwy'n gwybod bod gennych chi gysylltiadau cryf iawn â nhw. Ond efallai bod angen i ni wneud yn siŵr bod gwir ddealltwriaeth o'r hyn yr ydyn ni'n ceisio ei gyflawni yn hyn o beth. Rydyn ni'n ceisio cyflawni hyn yn wyneb cyfyngiadau ariannol difrifol iawn ac mae'n rhaid i ni wneud y mwyaf o allu'r trethdalwr i gael cymaint ag sy'n bosibl o'r system.