Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 31 Ionawr 2023.
Gweinidog, mae'r ffaith nad yw'r pontio bob amser yn rhwydd rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac mae hynny wedi rhoi ein GIG o dan faich echrydus. Nid yw hynny'n fwy amlwg yn unman nag ym maes gofal diwedd oes. Yn y grŵp trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol yr wythnos diwethaf, fe glywsom ni fod cael gafael ar wasanaethau y tu allan i oriau yn drybeilig. Cymerodd gofalwr dros 20 awr i gysylltu â'r gwasanaeth 111 un penwythnos dim ond er mwyn trafod meddyginiaeth. Nid oes fawr o ryfedd, felly, fod un o bob 14 claf sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn glaf diwedd oes. Gweinidog, pa gamau mae eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i wella gwasanaethau diwedd oes yn y gymuned, fel nad yw cleifion, gofalwyr na chartrefi gofal yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau iechyd acíwt?