Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 31 Ionawr 2023.
Fel yr unig blaid, i bob golwg, sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig gyfan, a lle annatod Cymru ynddi, fy mhleser i yw gallu gofyn rhai cwestiynau am eich datganiad, Gweinidog. Rydyn ni'n ystyried y comisiwn, fel y gwyddoch chi, yn ddiangen. Mae'n ddiangen oherwydd mae'n fater o Gymru ond yn edrych ar un rhan unigol o'r Deyrnas Unedig a heb ystyried yn briodol barn pobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gamgymeriad mawr yn fy marn i.
Mae'n gomisiwn drud—£1.1 miliwn bob blwyddyn dros dair blynedd. Mae i fod i orffen ei waith ym mis Rhagfyr eleni, ond eto rydych chi eisoes wedi dyrannu ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol yn y blynyddoedd ariannol canlynol, hyd yn oed y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol hon, am ddwy flynedd, £1.1 miliwn arall. Allwch chi egluro i ni pam mae'r comisiwn, hyd yn oed ar ôl cwblhau ei waith, yn dal i fod angen £1.1 miliwn y flwyddyn yn y flwyddyn ariannol 2024-25?
Rydw i wedi rhoi cryn sylw i waith y comisiwn; rydw i wedi darllen yr adroddiad. A dweud y gwir, cefais i fy syfrdanu ei fod yn edrych ar yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn y system bŵer ganolog yn Lloegr, ond nid oedd yn ystyried o gwbl ganoli pwerau yma yng Nghymru. Nid oedd sôn am unrhyw botensial am ddatganoli i ranbarthau Cymru—fy rhan i o Gymru, gogledd Cymru, sy'n teimlo, er enghraifft, wedi'i datgysylltu cymaint o fywyd yma ym Mae Caerdydd ac, yn arbennig, ym Mharc Cathays, oherwydd anwybodaeth Llywodraeth Cymru tuag at y rhanbarth arbennig hwnnw. A gaf i ofyn, a fyddwch chi'n rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd i'r comisiwn i ystyried datganoli o fewn Cymru er mwyn i ni gael dull gweithredu datganoledig priodol tuag at lywodraethu'r wlad hon, yn hytrach na'r dull canolog y mae eich Llywodraeth wedi'i gymryd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf?
Yn ogystal â hynny, mae'r adroddiad yn sôn yn gwbl briodol am bwysigrwydd atebolrwydd uniongyrchol mewn democratiaeth. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Blaid Lafur, law yn llaw â Phlaid Cymru, yn ceisio cael gwared ar yr atebolrwydd uniongyrchol hwnnw drwy gyflwyno diwygiadau'r Senedd a fydd yn grymuso pleidiau gwleidyddol dros aelodau'r cyhoedd o ran pwy y gallan nhw ethol yn uniongyrchol i'w cynrychioli yn y Siambr hon. Rwy'n gwybod bod aelodau'r meinciau cefn ar feinciau Llafur yn cytuno â mi yn hynny o beth, oherwydd mae systemau rhestr-gaeedig yn tynnu grym oddi wrth y bobl a'i roi ym mhocedi arweinwyr y pleidiau gwleidyddol. Dyna'r dull gweithredu anghywir, o'n rhan ni, ac rwy'n credu y dylech chi ofyn i'r comisiwn archwilio a rhoi ei farn ar y cynigion ar gyfer diwygio'r Senedd sydd wedi'u cynllunio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, oherwydd nid wyf i'n credu, a dweud y gwir, y bydden nhw'n eu gweld nhw'n fuddiol i bobl Cymru
Gwnaethoch chi gyfeirio at gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU—dogfen gan y Blaid Lafur, nid dogfen sydd ag unrhyw fwy o bwysigrwydd y tu hwnt i'r Blaid Lafur na'r pwysigrwydd yr ydych chi'n ei roi iddi, yn ôl pob golwg. Ôl-ystyriaeth oedd Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen honno. Roedd yn sôn yn faith am y sefyllfa yn yr Alban. Roedd yn sôn am ranbarthau Lloegr. Prin y soniwyd am Gymru yn y ddogfen, ac mewn gwirionedd mae'r sôn y cafodd yn anghytuno'n llwyr â barn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, a oedd eisiau gweld y system gyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llwyr. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown yn anghytuno â chi. Ni wn i pam eich bod chi'n ei gymeradwyo nawr yn y Siambr hon ac yn dweud dyna ddarn gwych o waith y mae ef wedi'i wneud, pan, a dweud y gwir, yn amlwg, nad oedd ef wedi rhannu'r darn yna o waith â chi cyn iddo gael ei gyhoeddi. Gwnaeth gyfeiriadau at 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' hyd yn oed. Ni wnaeth sôn am 'Lywodraeth Cymru'. Mae 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' yn derm y gwnaethon ni ei adael dros 10 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn dangos pa mor hen ffasiwn yw Gordon Brown a chymaint y mae wedi colli gafael ar bethau, a dweud y gwir, gyda phobl Cymru a'r bobl yn y Senedd hon, gan gynnwys ei gydweithwyr ei hun yn y Blaid Lafur.
Yna, rydych chi'n sôn am ymgysylltu â'r cyhoedd. Ar fy ngwir—maen nhw wedi cael 2,000 o ymatebion hyd yn hyn sydd wedi cyfrannu, drwy'r holiaduron, at waith y comisiwn. Roedd 55% o'r rheini, mae'n debyg, yn cefnogi annibyniaeth. Nawr, mae'n amlwg nad yw hynny'n adlewyrchu barn pobl Cymru, oherwydd rydyn ni'n cael gwybod yn gyson fod y gefnogaeth i annibyniaeth ymhell o dan 55 y cant, yn rhyfeddol is na hynny. Felly, mae gennyf i ofn bod y comisiwn hwn i'w weld ond yn siarad â'r bobl hynny y mae rhai o'i aelodau eisiau gwrando arnyn nhw. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n annog y comisiwn i ymestyn y tu hwnt i'r rhan honno o'r gymdeithas sydd wedi ymgolli ynddyn nhw eu hunain ac yn ôl pob golwg sydd ag obsesiwn ag ailwampio cyfansoddiadol yma yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau bod yna farn gynrychioliadol iawn yn cael ei rhoi iddo o farn pobl ar draws y wlad hon?
Ac yn olaf, rwyf i eisiau dweud wrthoch chi, Gweinidog, fy mod i'n credu ei bod hi'n bryd i ni fuddsoddi'r adnoddau sy'n mynd i'r comisiwn hwn yn ein GIG, yn ein hysgolion ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi arian i fuddsoddi mewn rhai o'r pethau hyn, rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi i allu i'w roi ym mhocedi ein nyrsys a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus. Dyma rywfaint o arian. Os yw'n llosgi twll yn eich poced, gwariwch e' ar bethau eraill.