Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ni fydd o unrhyw syndod fy mod i, fel Cadeirydd pwyllgor sydd â materion cyfansoddiadol yn rhan greiddiol o'i gylch gwaith, yn cyfrannu heddiw. Fel pwyllgor, nid ydym wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl, ond rydym wedi ei drafod yn fyr yr wythnos diwethaf cyn y datganiad heddiw. Fy ffocws y prynhawn yma fydd tynnu sylw at faterion o fewn yr adroddiad interim sy'n debygol o fod o ddiddordeb i fy mhwyllgor yn y misoedd nesaf.