Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 31 Ionawr 2023.
Rwy'n cytuno gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, fod bodolaeth a gwaith y comisiwn yn adlewyrchu, dwi'n credu, y bwrlwm newydd sydd yng Nghymru o gwmpas ein sgwrs genedlaethol o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hefyd yn cyfrannu tuag at y momentwm hwnnw. Ac mae hynny i'w weld mewn amrediad o ffyrdd ac yn adlewyrchu amrediad o farn, hwyrach. Un enghraifft dros y penwythnos diwethaf—fel dwi eisoes wedi cyfeirio ato fe yn gynharach y prynhawn yma, mi oeddwn i yn uwchgynhadledd y Felin Drafod ar annibyniaeth; 200 o bobl yn cynrychioli pleidiau gwahanol, gwahanol rannau o gymdeithas ar draws Cymru, yn trafod annibyniaeth ac yn cyhoeddi, fel rhan o'r gynhadledd, eu hastudiaeth newydd nhw ar y cwestiwn cyllidol mor belled ag y mae annibyniaeth yn y cwestiwn, sef un o'r cwestiynau mae'r adroddiad interim a'r comisiwn yn codi yng nghyd-destun asesu hyfywedd annibyniaeth, a'r astudiaeth honno yn ymateb i gyflwyniad Plaid Cymru i'r comisiwn, a gwaith yn benodol yr Athro John Doyle o Dublin City University, a oedd yn dangos bod modd i Gymru fforddio annibyniaeth, doedd yna ddim cymaint o fwlch cyllidol ag y rhagdybiwyd cyn hynny, a gwaith y Felin Drafod yn cadarnhau hynny ac yn gwneud gwaith pellach ar sail hynny.
Felly, mae yna fwrlwm sifig, mae yna egni o gwmpas cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Cymru nawr, sydd yn ymdebygu, rwy'n credu, i'r cyfnod cyn y refferendwm yn 1997. Ac mae e'n ddiwedd un cyfnod a dechrau cyfnod newydd, a'r sgwrs rydyn ni'n ei chael, wrth gwrs, yw: beth yw'r cyfnod newydd, beth yw'r bennod newydd, ac i ba gyfeiriad? Dwi'n credu fod e'n gyfle i ni adfywhau ein democratiaeth ni wrth i ni wynebu, wrth gwrs, y creisis cyfansoddiadol, y creisis democrataidd ehangach ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig tri opsiwn posib i'w harchwilio ymhellach ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: diogelu a chryfhau datganoli yn gyntaf, ffederaliaeth yn ail, a, wedi hynny, annibyniaeth. Mae'n glir, wrth gwrs, pa un o'r opsiynau mae fy mhlaid i yn ffafrio, ond a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud pa un o'r tri mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi fel yr opsiwn gorau nawr? Ac yn y cyd-destun hwnnw, oes yna wahaniaeth rhwng safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, Llafur Cymru fel plaid, fel rhan o'r Blaid Lafur Brydeinig yng Nghymru, a pholisi y Blaid Lafur Brydeinig? Neu oes yna ddisgwyl y bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru, Llywodraeth Lafur, yn penderfynu polisi y Blaid Lafur yn gyffredinol? A beth yw cyd-berthynas—? Roeddech chi wedi sôn am gomisiwn Gordon Brown a'i argymhellion e i arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Beth yw'r cyd-berthynas rhwng y broses honno o wneud polisi ar raddfa Brydeinig o ran y Blaid Lafur a gwaith y comisiwn? Yn achos yr Alban, yn y confensiwn cyfansoddiadol yna, oedd wedi cael cymaint o ddylanwad ar y broses datganoli yn yr Alban, mi oedd canlyniad y confensiwn, yr adroddiad terfynol, wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi y Blaid Lafur, oedd wedi cael ei fabwysiadu fel polisi. Ai dyna'r math o gyd-berthynas dŷch chi'n ei rhagweld gydag adroddiad terfynol y comisiwn yma, fod hwnnw wedi hynny yn cael ei barchu gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig? Ac a ydych chi yn annog hynny fel y ffordd ymlaen, gan wrth gwrs gyfeirio at y ffaith doedd adroddiad y comisiwn ddim yn dweud llawer am Gymru ac yn cyfeirio at y ffaith bod gwaith y comisiwn cyfansoddiadol yn dal yn mynd ymlaen?
Mae'r comisiwn cyfansoddiadol yn nodi nifer o feysydd lle mae yna alwadau wedi bod am ddatganoli. Dŷn ni wedi clywed cyfeiriad tuag at gyfiawnder a phlismona, er enghraifft, ond mae e'n rhestru rhai eraill: cyflogaeth, lle mae gwaith yn mynd rhagddi gan y TUC; gweinyddu lles; darlledu; Ystad y Goron; rheilffyrdd ac yn y blaen. Ydych chi yn bwriadu, fel rhan o'ch cyflwyniad i'r cyfnod nesaf, rhestru y meysydd hynny, fel Llywodraeth nawr, rŷch chi am weld Llywodraeth San Steffan nesaf yn datganoli i Gymru? Ac ydych chi, fel Llywodraeth sydd wedi dweud eich bod chi'n arddel hawl hunanbenderfyniad, am gynnwys yn y rhestr honno yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth neu ar ddyfodol cyfansoddiadol, i ba bynnag gyfeiriad, fod yr hawl hwnnw ddim yn gadwedig yn San Steffan ond hefyd yn dod fan hyn, lle y dylai fe fod, wrth gwrs, yn nwylo cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru?