Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg.
Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r CSCAs yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Hoffwn ddiolch i bawb ar lefel awdurdod lleol a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus a'u cyfraniad i’r agenda hwn. Mae'n dangos i mi ymrwymiad a dealltwriaeth go iawn o'r angen i barhau i symud ymlaen, gyda'n gilydd, gyda gweledigaeth glir.
A gweithredu ar eu hymrwymiadau yw'r union beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Dyma’r neges glir gan arweinwyr y cyngor a chyfarwyddwr addysg yn ystod ein cyfarfodydd i drafod y CSCAs y tymor diwethaf. Rŷn ni i gyd yn gwybod nad yw addysg a chynllunio iaith yn hawdd, yn enwedig gan fod man cychwyn pob awdurdod lleol yn wahanol. Mae angen inni barhau, felly, i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn dod â ni'n agosach at ein huchelgais 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg. O'm rhan i, rwyf am wneud yn siŵr bod canllawiau a gyhoeddir i awdurdodau lleol yn adlewyrchu ein hymrwymiadau 'Cymraeg 2050'. Mae canllawiau newydd eisoes wedi'u cyhoeddi ynglŷn â grantiau cyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy a'r CSCA, fel bod cynlluniau buddsoddi'n cael eu hasesu yn erbyn y CSCA, i sicrhau’r gallu i gyrraedd targedau'r CSCA. Rŷn ni hefyd yn bwriadu adolygu'r cod trefniadaeth ysgolion, gyda gwaith eisoes ar y gweill i adnabod pa newidiadau sydd eu hangen.
Roeddwn i'n falch o allu dyrannu £7 miliwn arall o gyllid cyfalaf yn ystod tymor yr hydref i gefnogi ymrwymiadau CSCA awdurdodau lleol. Mae hyn ar ben yr £105 miliwn a gymeradwywyd ers 2018. Mae'r £6.6 miliwn i ehangu darpariaeth drochi hwyr ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon yn ennill momentwm, gyda phob cais gan awdurdodau lleol yn weithredol ers mis Medi. Bydd yr arian yn galluogi awdurdodau lleol i gyflogi dros 60 o arbenigwyr trochi hwyr dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, maen nhw wedi gallu agor eu canolfan drochi gyntaf yn Ysgol Gwaun y Nant trwy'r grant hwn. Rŷn ni hefyd yn cefnogi rhaglen drochi rithiol yng Ngwynedd, gan ddefnyddio technoleg VR, adnodd fydd o fudd i Gymru gyfan.
Lansiwyd ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi ym mis Rhagfyr y llynedd i ddod ag awdurdodau lleol, ysgolion ac arbenigwyr trochi hwyr at ei gilydd i sicrhau bod datblygiadau mewn arferion trochi hwyr yn seiliedig ar wybodaeth ac ymchwil. Rwy'n falch iawn o'r hyn rŷn ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn. Mae ein darpariaeth drochi hwyr ni yn unigryw i ni yng Nghymru, ac mae'r potensial i ni fynd hyd yn oed ymhellach yn glir i'w weld.
Allwn ni ddim, fodd bynnag, anwybyddu canlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Roedd y ffigurau ynglŷn â phlant tair i 15 oed yn siomedig, gan ein bod yn gwybod bod mwy o ddysgwyr mewn addysg Gymraeg heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl—dros 11,000 yn fwy. Fe wnes i sôn yn fy natganiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 24 Ionawr, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer ohonom sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.
Mae cynnal gwell dealltwriaeth o'r data yn rhan allweddol o gynllunio’r Gymraeg mewn addysg. Darparwyd proffil data Cymraeg lleol i awdurdodau lleol wrth baratoi eu CSCA, fydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar adroddiadau adolygu’r CSCA.
Ers cyhoeddi ein cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd ym mis Mai 2022, rŷn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i ddatblygu dull cyson o ddadansoddi data sy'n cael ei gasglu gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth fanylach o’r nifer o athrawon ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau awdurdodau lleol i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd hefyd yn galluogi rhanddeiliaid i dargedu ein cefnogaeth yn well i gefnogi pob ymarferwr i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg.
Rŷn ni am sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Rŷn ni wedi ymrwymo i sefydlu a gweithredu continwwm o ddysgu Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o'r daith i ddysgu'r Gymraeg a'r canlyniadau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o'r daith honno. Rhan hanfodol o'r gwaith hwn fydd sicrhau bod y continwwm yn gallu cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg statudol i gefnogi Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag wrth ddysgu ôl-16 a dysgu oedolion. Rŷn ni wedi bod yn archwilio gyda rhanddeiliaid cyfleoedd i ddefnyddio’r fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin o ran lefelau iaith, neu the common European framework of reference for languages, CEFR, fel y'i gelwir, fel sail i ddatblygu continwwm Cymraeg. Bydd gwreiddio'r continwwm yn cymryd amser, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gael i bawb.
Byddwn ni'n parhau i weithio ar draws pob ysgol a lleoliad i sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu Cymraeg yn arloesol ac yn cael ei chefnogi gan ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Mae'n rhaid inni ailffocysu ein hymdrechion yn y sector cyfrwng Saesneg. Rwy'n ymfalchïo yn y gwaith caled sy'n digwydd mewn ysgolion ac rwy'n gwybod bod awydd a brwdfrydedd ymhlith athrawon Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r cwricwlwm newydd. Rŷn ni eisoes wedi cyhoeddi'r fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg, a’r gwersi Cymraeg am ddim trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddysgwr 16 i 25 a hefyd y gweithlu addysg, sy’n enghraifft wych o'r cydweithio sy’n digwydd gyda’n partneriaid.
Ers mis Medi, rŷn ni wedi ariannu'r ganolfan a chwmni Say Something in Welsh i ddatblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr a datblygu eu hyder. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y potensial i gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o'n hysgolion. Rŷn ni'n bwriadu cyflwyno'r peilot hwn i 10 ysgol Saesneg arall, ac mae'r cynllunio ar gyfer hynny'n dechrau nawr. Byddwn ni hefyd yn datblygu mwy o adnoddau i sicrhau bod ein dysgwyr Cymraeg yn cael cefnogaeth cryf i ddod yn siaradwyr hyderus, balch. Wrth gwrs, nid yw’r un dull yn gweddu i bawb, a rhaid inni barhau i ddod o hyd i gyfres o ymyraethau gwahanol i gefnogi pob dysgwr, lle bynnag y maen nhw ar eu taith iaith.
Mae'r rhain i gyd yn gamau bach ond arwyddocaol, ac mae angen i ni eu dathlu. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n hyderus y gallwn ni gyflawni mewn partneriaeth.