Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 31 Ionawr 2023.
Diolch, Weinidog, am y diweddariad heddiw, ac am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Dwi'n croesawu'n benodol fod y Gweinidog yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Mae hon yn egwyddor bwysig, ac yn mynd â ni'n bellach na'r ymrwymiad sydd yn strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n dweud mai nod y Llywodraeth yw sicrhau bod o leiaf 70 y cant o'r holl ddysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a'u bod yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd o'u bywydau erbyn iddynt adael yr ysgol. Dwi'n sicr yn croesawu'r newid hwn ac o'r farn os ydym ni o ddifrif o ran sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, yna mae'n rhaid i bob dysgwr gael cefnogaeth i ddysgu'r iaith ym mhob ysgol yng Nghymru.
Mae hwn yn newid arwyddocaol, a'r hyn yr hoffwn ofyn, Weinidog, ydy: sut mae'r egwyddor hon yn cael ei chefnogi gan y CSCAau? Wedi'r cyfan, dengys tystiolaeth o Wlad y Basg mai trochi, a derbyn addysg drwy gyfrwng Basgeg, heb os yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn siaradwyr Basgeg hyderus. Os nad ydych yn cefnogi'r egwyddor hon, pa fethodoleg fyddech chi'n ei hargymell ar gyfer sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn datblygu sgiliau dwyieithog hyderus?
Rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi addysg drochi, a heb os, mae hyn i'w groesawu. Rydyn ni i gyd wedi gweld pethau anhygoel ar y newyddion o bobl yn dod yn hollol, hollol rugl mewn dim o beth. Ond mewn nifer helaeth o achosion, os nad ym mhob achos, bwriad addysg drochi yw cefnogi dysgwyr sydd eisiau mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a prin yw'r cyfleon i ddysgwyr mewn ysgolion eraill fanteisio ar gynlluniau o'r fath. Gwyddom fod trochi'n gweithio—rydyn ni wedi gweld hynny. Rydych chi a mi wedi cyfarfod pobl sydd wedi bod drwy'r system. Felly, gyda'r ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn mynd i gael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ehangu cyfleon trochi a chynyddu'r defnydd o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol? Onid dyma'r unig ffordd i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod?
Yn amlwg, un peth sy’n rhwystr o ran hyn oll ydy'r gweithlu—rydych chi'n cyfeirio at hynny yn y datganiad—ac yn benodol nad oes gennym ddigon o athrawon gyda'r Gymraeg i ddiwallu anghenion y CSCAau fel y maen nhw. Gyda nifer o athrawon ar streic yfory, a nifer yn dweud wrthym eu bod yn gadael y proffesiwn neu'n ystyried gwneud, pa mor bryderus ydych chi nad oes gennym y gweithlu yn ei le o ran cyrraedd y nodau presennol, yn benodol o ran dysgu Cymraeg, dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd o ran anghenion dysgu ychwanegol?
Dwi'n croesawu'r cyfeiriad at y cytundeb cydweithio yn eich datganiad hefyd, ac yn benodol o ran y gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr 16 i 25 oed, a hefyd yn y gweithlu addysg. Gaf i ofyn faint o bobl sydd wedi manteisio ar y gwersi hyn ers i'r cynlluniau gael eu lansio? Ydych chi'n gweld bod pobl yn manteisio a bod ganddynt yr amser i wneud hynny?
Yn olaf, fel y soniwyd, un o'r heriau sydd wedi bod efo'r CSCAau ydy o ran yr atebolrwydd hwnnw. Dwi'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cael ymrwymiad, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, gan arweinwyr ym mhob awdurdod lleol. Yn amlwg, mi fuodd yna dipyn o drafod rhyngoch chi a'r awdurdodau o ran y CSCAau, efo nifer yn gorfod ailedrych arnyn nhw. Ond o ran y cwestiwn o ran atebolrwydd, mi ydyn ni yn y gorffennol wedi gweld rhai awdurdodau lleol ddim yn cyrraedd y nodau maen nhw wedi'u gosod, a ddim wastad yn cynnig eglurhad o ran hynny. Felly, er fy mod yn croesawu bod yna ymrwymiad eu bod nhw'n mynd i wneud yn well, efallai, yn yr awdurdodau hynny, sut ydyn ni'n mynd i sicrhau yr atebolrwydd hwnnw? Ac felly pa mor bwysig fydd sicrhau bod Bil addysg y Gymraeg yn cryfhau gallu'r Llywodraeth i sicrhau bod cynlluniau addysg yn cael eu gweithredu mewn ffordd fydd yn cefnogi'r uchelgais o weld pob plentyn yn dod yn siaradwr hyderus?