Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch. Mae'r tasglu'n cynnwys Llywodraeth Cymru, cyngor Ynys Môn, Llywodraeth y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y cwmni ei hun ac undeb llafur Unite. Bydd dwy ran iddo: bydd grŵp arweinyddiaeth, a fydd yn amlwg yn cael y mewnbwn gweinidogol, ac yna bydd grŵp gweithredol, a fydd ar lefel swyddogol. Ac mae hynny i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo yn gyflym. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y tasglu hwnnw'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynorthwyo'r gweithwyr yr effeithir arnyn nhw a'r cymunedau. Mae wir yn gyhoeddiad ofnadwy. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch hynny, ac rwy'n ymwybodol bod y tasglu, ddydd Gwener, yn sicr wedi ailddatgan ei gefnogaeth lawn.