Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:56, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau iechyd i wneud yn siŵr bod cyllid ychwanegol wedi cael ei dargedu i gefnogi'r gwasanaethau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda'r heddlu a gwasanaethau brys eraill i wneud yn siŵr bod y system wyliadwriaeth hunanladdiad amser real yng Nghymru ar gael. Mae wedi darparu mynediad llawer mwy cyflym at wybodaeth am hunanladdiadau tebygol, er enghraifft, ac mae hynny wir yn cael ei ddefnyddio i gryfhau ein gwaith ataliol.