Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:53, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Trefnydd. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn amserol yn bwysig i'n GIG, yn hanfodol i bobl mewn angen, ac yn gallu hyd yn oed achub bywydau. Dyna pam rwy'n falch iawn o gyflwyniad y gwasanaeth ffôn '111 pwyswch 2' i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl brys. Gyda'r bwriad y bydd hwn yn cael ei gyflwyno i holl ardaloedd byrddau iechyd Cymru erbyn diwedd mis Mawrth, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth hollbwysig hwn?