Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Chwefror 2023.
Rydyn ni'n parhau i gynorthwyo pobl agored i niwed ledled Cymru, gan gynnwys y rhai yn Nwyrain De Cymru, i helpu i liniaru'r argyfwng costau byw. Mae'r mentrau'n cynnwys ein cyflog cymdeithasol hael, ehangu ein cynnig gofal plant, ein cynnig prydau ysgolion cynradd am ddim cyffredinol, ac adolygu'r cynllun lleihau'r dreth gyngor i'w wneud yn decach.