Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:14, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn, a gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr wythnos nesaf, yn cyfarfod â chwmnïau gorfodi i gyflwyno'r union bwynt hwnnw rydych chi'n ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn hapus iawn i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfodydd hynny.