2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:16, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, rydyn ni i gyd wedi ein dychryn, yn briodol, gan y dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno yn ymwneud â rhywiaeth, casineb at fenywod a hiliaeth o fewn Undeb Rygbi Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cafodd un o bwyllgorau craffu'r Senedd gyfle i holi URC a Dirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon yr wythnos ddiwethaf ar y mater. Yn ystod y sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru, roedd hi'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am rai honiadau difrifol ym mis Mai 2022, a bod trafodaethau wedi bod rhwng y Dirprwy Weinidog ac URC ar y materion hyn. Hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon ar y mater hwn, yn egluro'r hyn oedd yn hysbys i Lywodraeth Cymru a phryd, ac yn amlinellu pa gamau a gymerwyd. O ystyried budd y cyhoedd yn y mater ac arwyddocâd yr honiadau a wnaed, byddwn i'n croesawu cyfle i'r Senedd gyfan gael yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru ag URC yn ystod y cyfnod hwnnw.