Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 7 Chwefror 2023.
Mae Mis Hanes LHDT yn rhoi cyfle i fyfyrio ar ba mor bell yr ydym wedi dod yn yr ymdrech dros hawliau LHDTC+, a dathlu bywydau pobl LHDTC+ sydd, am amser rhy hir ac yn rhy aml, wedi cael eu cuddio oddi wrth hanes. Ond, mae angen gwneud mwy na myfyrio ar ein gorffennol ni; mae angen i ni ddysgu gwersi ohono. Ni fyddwn ni'n anghofio am y niwed y mae gwahaniaethu, casineb ac allgáu wedi'i achosi i gymaint o bobl LHDTC+. Ni fyddwn chwaith yn anghofio y cynnydd a'r cyflawniadau a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, diolch i'r ymgyrchwyr a'r cynghreiriaid sydd wedi braenaru'r tir.
Ond ni allwn laesu dwylo. Mae pobl LHDTC+ yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu. Rydym ni mewn oes pryd gellir teimlo ein bod ni dan ymosodiad a'n hawliau ni mewn perygl o gael eu tynnu yn ôl, a chymunedau LHDTC+ yn aml yn cael eu gwneud yn arfau yn enw yr hyn a elwir yn ddadl wleidyddol ac yn y cyfryngau. Rydym ni'n parhau i fod yn unplyg fod Llywodraeth Cymru yn sefyll gydag ac ymhlith ein cymunedau LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni'n dymuno creu Cymru lle mae pawb yn teimlo'n rhydd, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel i fyw a bod fel nhw eu hunain. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi eu hymgorffori yn ein rhaglen lywodraethu, maen nhw'n elfen allweddol o'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi datblygu cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar ac uchelgeisiol.
Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi lansiad a chyhoeddiad heddiw ein cynllun gweithredu LHDTC+ uchelgeisiol ac eang i Gymru—y cyntaf o'i fath. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau ar draws y Llywodraeth, y cymunedau a'r genedl, ar gyfer cyflawni ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Er bod cyhoeddi'r cynllun hwn yn gam allweddol ar y daith, mae ein gwaith ni i wella cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi dechrau yn barod. Dim ond yn y mis diwethaf, fe amlinellais ein camau nesaf yn ein gwaith o wahardd arferion trosi. Mae gwasanaethau cymorth wedi eu hehangu ledled Cymru, ac mae gweithgor o arbenigwyr wedi ei ffurfio. Fe fydd y grŵp yn rhoi'r cyngor a'r arbenigedd sydd eu hangen arnom i ymwared â'r hen arferion ffiaidd hyn, ac mae'r cyfarfod cyntaf eisoes wedi bod. Ochr yn ochr â hyn, bydd ein hymgyrch cyfathrebu trosedd gwrth-gasineb, Mae Casineb yn Brifo Cymru, â mwy o bwyslais ar LHDTC+ eleni, ac yn cyfeirio pobl at ganolfan cymorth casineb Cymru, sy'n cynnig cymorth cyfrinachol i ddioddefwyr.
Gwnaethpwyd cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV sydd ar ddod i Gymru, ac rydyn ni'n adnewyddu ein hymrwymiadau ni i fynd i'r afael â diagnosis hwyr yng Nghymru a'r gwarthnod sy'n gysylltiedig â HIV, a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gyda HIV. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi rhoi arian i fudiadau Pride lleol ledled Cymru. Cefnogodd y gronfa Pride ar lawr gwlad Pride y gogledd ym Mangor, Pride in the Port yng Nghasnewydd, Abertawe, Y Bont-faen, Pride y Barri, a Glitter Pride, gan gysylltu cymunedau ledled y wlad. Rydyn ni'n gwybod cymaint yw gwerth hyn a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i'r gymuned LHDTC+, ac yn y flwyddyn i ddod fe fyddwn ni'n ategu llwyddiant hwn drwy ehangu'r gronfa Pride ar lawr gwlad. Gobeithiwn ymestyn ymhellach eto, gan gyrraedd ardaloedd mwy gwledig a threfi llai, a galluogi digwyddiadau yn y Gymraeg a sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn nhw eu hunain ledled Cymru.
Dirprwy Lywydd, fe ddywedais i yn gynharach sut, yn anffodus, yn rhy aml yn yr hinsawdd bresennol, ei bod yn teimlo fel bod ein hawliau dan ymosodiad, a neb yn fwy felly na'r gymuned draws, o'r gwenwyn ar Twitter, i'r hyn a elwir yn wleidyddiaeth boblyddol a'r naratif yn y cyfryngau a gynlluniwyd i roi pobl benben â'i gilydd. Rydyn ni'n ymrwymo o'r newydd i gefnogi pobl draws ac anneuaidd, a'n man cychwyn yw mai dynion yw dynion traws, a menywod yw menywod traws, a bod hunaniaethau anneuaidd yn ddilys. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda'n cymunedau LHDTC+ i gyd, ac yn wleidyddion ac yn ffigyrau cyhoeddus, fe allwn, ac mae'n rhaid i ni fod yn well.
Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i wella bywydau pobl draws yng Nghymru, a cheisio unrhyw bŵer pellach i wneud hyn, gan gynnwys ein rhaglen lywodraethu ac ymrwymiad y cytundeb cydweithio i sbarduno cais i ddatganoli Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a chefnogi ein cymuned draws, ac mae gwaith rhagarweiniol wedi dechrau eisoes yn hyn o beth. Mae gwaith wedi dechrau hefyd ar ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc trawsryweddol, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hyderus a chyfforddus wrth gefnogi myfyrwyr traws ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i mi gydnabod cefnogaeth llawer wrth greu'r cynllun hwn. Mae nifer sylweddol o randdeiliaid, unigolion a sefydliadau wedi cyfrannu at ddatblygiad y cynllun. Rhoddodd rhai yn hael o'u hamser ac fe rannodd llawer eu profiad o wahaniaethu a gelyniaeth fel dinasyddion Cymru. Fe wnaethon nhw sôn hefyd am eu cyflawniadau fel eiriolwyr, gweithwyr ac arweinwyr, fel ymchwilwyr, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol, ac fel cymunedau. Fe hoffwn i gofnodi fy niolch yn benodol i'r panel arbenigol LHDTC+, a roddodd gymorth, cyngor a her, a oedd yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallem ni ei wneud i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i'r tîm gwych yn Llywodraeth Cymru, y mae eu gwaith caled nhw y tu cefn i mi, er mwyn gallu sefyll yn y fan hon yn lansio'r cynllun hwn heddiw.
Yn wir, mae hwn yn gynllun sy'n ymestyn ar draws y Llywodraeth, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth gadarn fy nghyd-Weinidogion ar draws y llywodraeth. Fe fydd y gefnogaeth barhaus hon yn hanfodol wrth droi'r cynllun o fod yn eiriau ar dudalen i fod yn gamau ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Fel maen nhw'n dweud, mae gwneud yn well na dweud. Mae hyn yn ymwneud â newid bywydau nid dim ond newid deddfwriaeth, mae'n ymwneud â phobl, nid â pholisïau yn unig. Ond mae'r geiriau yn bwysig hefyd; mae'r hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn gallu cael effaith. Felly gadewch i ni fod yn eglur, wrth i ni gyhoeddi'r cynllun gweithredu LHDTC+ hwn heddiw, ein bod ni, yma yng Nghymru, yn sefyll o blaid undod yn hytrach nag ymraniad, cynhwysiant yn hytrach nag allgáu a gobaith yn hytrach na chasineb. Gyda'n gilydd â balchder—gan sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Diolch.