3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Cynllun Gweithredu LHDTC+

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:57, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae hi'n anodd dod o hyd i'r geiriau priodol i ymateb i gyfraniad Laura Anne Jones. [Torri ar draws.] Ie, 'cywilyddus', ac nid wyf i'n credu bod gennyf i lawer i'w ddweud mewn ymateb i hynna. Rydyn ni newydd fod yn siarad yn y Siambr hon yn gynharach heddiw, ac mae gennym ni aelodau o'r gymuned sydd yma'n gwylio—mae gan eich geiriau chi ddylanwad peryglus, Laura Anne Jones. Maen nhw'n niweidio pobl, y geiriau yr ydych chi'n eu dweud, y gwahaniaethu a ddaw o'ch genau chi, a'r hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw fy mod i'n credu eich bod chi'n well na hyn. Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn. [Torri ar draws.] Rwy'n credu eich bod chi'n well na hyn.