Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 7 Chwefror 2023.
Yn gyntaf oll, roedd y pwyllgor o'r farn bod diffyg eglurder a gonestrwydd ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran nodi lle mae penderfyniadau wedi eu gwneud yn y gyllideb ddrafft i atal, gohirio neu leihau cyllid. O ganlyniad, rydym wedi gwneud llu o argymhellion yn galw am fwy o eglurder yn yr wybodaeth a ddarparwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Mae hyn yn cynnwys galw ar y Gweinidog i ddarparu asesiad llawn o'r effaith y bydd chwyddiant uchel yn ei gael ar ei sefyllfa ariannu a'i rhaglen gyfalaf ac i newidiadau gael eu gwneud i'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth, fel bod y gyllideb ddrafft yn darparu asesiad o effaith penderfyniadau gwariant ar draws portffolios.
Ar ben hynny, hoffwn nodi, ar ran yr holl bwyllgorau, er ein bod bob amser yn croesawu'r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i sicrhau bod pwyllgorau'n cael tystiolaeth o'r fath mewn da bryd. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori'n fuan gyda phwyllgorau'r Senedd ynghylch eu profiadau o graffu ar y gyllideb ddrafft eleni a gofyn am ffyrdd ymarferol y gellir gwneud gwelliannau i'r rownd gyllideb nesaf.
Gan droi nawr at ein barn am ddefnydd Llywodraeth Cymru o ysgogiadau cyllidol, er ein bod yn deall penderfyniad y Gweinidog i beidio codi trethi, mae'r pwyllgor yn synnu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwaith manwl ar effaith ymddygiadol amrywio cyfraddau treth incwm Cymru ar draws pob band. Mae hyn yn awgrymu'n gryf nad yw'r Gweinidog wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i newid y cyfraddau yn ystod y rownd gyllideb hon, a oedd yn siomedig, ac rydym yn gofyn i hyn gael ei ystyried yn iawn yn y dyfodol. Clywsom dystiolaeth bod angen diweddaru offer cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, rydym yn cefnogi ymdrechion parhaus y Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynyddu terfynau cyffredinol a blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyca a chronfeydd wrth gefn o leiaf yn unol â chwyddiant. Clywsom hefyd fod natur ein pwerau codi trethi yn fwy cyfyngedig na'r rhai a fwynheir gan ein cefndryd yn yr Alban. Er ein bod yn cydnabod bod gwneud hynny ymhell o fod yn syml, hoffem i'r Gweinidog wneud gwaith sylfaenol ar fanteision a pheryglon datganoli pwerau i addasu cyfraddau bandiau a throthwyon treth incwm Cymru.
Un o agweddau allweddol y gyllideb ddrafft hon yw'r gefnogaeth a ddarperir i helpu gyda chostau byw cynyddol. O ran cael mynediad at fudd-daliadau, mae'r pwyllgor wedi hen argymell dull 'dim drws anghywir'. Wrth i'r galw am gefnogaeth o'r fath, yn anffodus, gynyddu, credwn y gellir gwneud mwy i sicrhau bod cael mynediad at gymorth o'r fath mor rhwydd a syml â phosibl. Dyna pam yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio gweithdrefn garlam er mwyn cyflwyno system fudd-daliadau unedig, siarter budd-daliadau Cymru, er mwyn ei gwneud hi'n haws a symlach. Credwn hefyd fod angen mân gywiriadau i'r cynlluniau cymorth ariannol presennol, yn enwedig mewn cysylltiad â throthwy cymhwysedd, er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar lefelau addas ac nad ydyn nhw'n eithrio'r rhai ar ymylon cefnogaeth. Mae'r pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion pendant i wella'r hyn sydd eisoes ar gael. Mae hyn yn cynnwys annog ehangu'r model gofal plant am ddim, ystyried cynnydd yng ngwerth lwfans cynhaliaeth addysg, nad yw wedi cael ei gynyddu ers canol y 2000au, a blaenoriaethu datblygu rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys i atal tlodi tanwydd.
Llywydd, mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn llwyr ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy'r gyllideb ddrafft hon i gefnogi gwasanaethau o'r fath yn gam i'w groesawu, ac mae gennym ddiddordeb arbennig yn y dulliau arloesol sy'n cael eu harchwilio i gynyddu'r arian sydd ar gael, gan gynnwys cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol i ariannu cost gynyddol darparu gofal cymdeithasol. Ond mae angen i'r Senedd wybod a yw'r cyllid hwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn sicrhau gwelliannau diriaethol. Rydym felly eisiau i Lywodraeth Cymru egluro'r canlyniadau y mae'n disgwyl i sefydliadau'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol eu cyflawni. Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu meysydd blaenoriaeth i'r GIG, mae'n llai parod i amlinellu'r meysydd y mae'n disgwyl iddyn nhw golli blaenoriaeth. Fel y dywedodd un rhanddeiliad wrthym, 'Os yw popeth yn flaenoriaeth, yna does dim blaenoriaeth.' Ofer yw ymdrechion o'r fath i nodi blaenoriaethau gwario os na all y Gweinidog egluro hefyd pa feysydd sydd â llai o flaenoriaeth ac o ganlyniad yn derbyn llai o gyllid.
Yn ystod ein digwyddiad rhanddeiliaid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd fis Mehefin diwethaf, dywedodd cynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol wrthym fod cynllunio'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn gydnerth ac yn addas i'r diben—thema a gafodd ei hailadrodd yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Er ein bod yn croesawu'r cyhoeddiad hwyr yr wythnos diwethaf o gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu Llywodraeth Cymru, hoffem ei weld yn cael ei ymestyn ar draws sector cyhoeddus Cymru i ddarparu sefydlogrwydd tymor hir i wasanaethau yn ogystal â chefnogaeth a chyfeiriad. Ni allwn ddisgwyl i wasanaethau wella os nad ydym yn gofalu am y rhai sy'n gweithio mor galed i'w cynnal.