Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch. Rwy'n falch o agor y drafodaeth y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Ers i ni gael cyfle i drafod y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf yn y Senedd ar 13 Rhagfyr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol iawn a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r rhai a gafodd fy nghyd-Weinidogion gyda'u priod bwyllgorau. Cyn i mi gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu sy'n deillio o'r gwaith craffu, mae'n bwysig cydnabod eto y cyd-destun heriol y mae'r gyllideb ddrafft hon yn cael ei pharatoi ynddo. Mae hon wedi bod yn flwyddyn pan welsom effeithiau parhaus chwyddiant, tri Phrif Weinidog, tri Changhellor, a'r gamreolaeth ysgytwol o arian cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Cawsom ddatganiad yn yr hydref gan y Canghellor diweddaraf a fethodd â chyrraedd y nod o bell fordd o ran yr ymyraethau sydd eu hangen i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Ond, er gwaethaf hyn, gan adeiladu ar ein hadolygiad gwariant tair blynedd, mae'r gyllideb ddrafft yn cydbwyso ein hymateb i'r argyfwng uniongyrchol ochr yn ochr â buddsoddi mewn newid tymor hirach. Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, ond fe wnaethon ni hynny mewn ysbryd o gydweithio a thryloywder a rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf.
Ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyllideb 2023-24 yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, gan barhau i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw, a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod dirwasgiadol. Yn wahanol i'r hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei nodi yn eu gwelliant, rydyn ni'n credu mai'r blaenoriaethau hynny—amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl—yw blaenoriaethau pobl yng Nghymru. Gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol mewn cyllid a ddarparwyd gennyf yn ein hadolygiad gwariant, yng nghyllideb 2023-24, rwyf wedi dyrannu £165 miliwn i'r GIG, £70 miliwn i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol, a £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 7.9 y cant ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd yr un awdurdod lleol yn cael llai na chynnydd o 6.5 y cant. Ochr yn ochr â'n cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus, byddwn yn parhau i gefnogi'r economi a busnesau gyda buddsoddiad uniongyrchol o £319 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, mae'r gyllideb hon yn anelu cefnogaeth at y rhai sydd ei angen fwyaf, gan gynnwys trwy fuddsoddi yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol a'n cronfa cymorth dewisol.
Trof yn awr at y pwyntiau a godwyd gan y gwaith craffu. Roeddwn yn falch o weld y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod y cyd-destun anodd yr ydym yn cyflawni'r gyllideb hon ynddo, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith gynyddol chwyddiant ac i godi ein cyllideb yn unol â'r datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Byddaf yn parhau i alw arnyn nhw i roi'r hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen arnom i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau mewn cyfnod anodd. Rwy'n croesawu cefnogaeth y Pwyllgor Cyllid ar gyfer hyn, a byddaf yn ei godi yng nghyfarfod nesaf Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ac ochr yn ochr â fy nghyd-Weinidogion, byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu amrywiaeth o ymyraethau i gefnogi'r rhai sydd angen cymorth fwyaf. Mae'r adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhyng-lywodraethol yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau fel sail i gynnal cysylltiadau rhyng-lywodraethol. Ein gobaith yw y gallwn weithio'n bragmataidd gyda Llywodraeth y DU, trwy'r trefniadau adolygu cysylltiadau rhyng-lywodraethol newydd, cyn bod angen cychwyn y broses o ddatrys anghydfod ffurfiol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio'r broses honno pan fyddwn yn ystyried ei bod yn angenrheidiol.
Trof yn awr at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar godi cyfraddau treth incwm Cymru. Rydym wedi bod yn glir iawn nad nawr yw'r amser i godi cyfraddau treth incwm Cymru. Wrth gwrs, rydym yn ystyried ein holl ysgogiadau treth fel rhan o'n paratoadau cyllideb. Fodd bynnag, mae'r baich treth presennol ar ei lefel uchaf ers dros 70 mlynedd. Mae chwyddiant cynyddol yn effeithio ar bobl ledled Cymru, ac rydyn ni mewn argyfwng costau byw. Ni fyddwn yn gofyn i bobl dalu mwy ar hyn o bryd. Ni fyddai codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm yn codi digon o arian i wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cynlluniau gwariant. Byddai'n rhaid i'r cyfraniad mwyaf ddod gan drethdalwyr y bandiau cyfradd sylfaenol, a gadewch i ni fod yn glir y byddai hyn yn effeithio ar y gweithwyr ar y cyflogau isaf yng Nghymru. A'r un gweithwyr yw'r rhain sy'n chwilio am gymorth gan fanciau bwyd, yr un gweithwyr sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwydo'u teuluoedd. Dylid defnyddio cyfraddau Cymreig o dreth incwm gyda phwyll ac yn strategol.
A gan droi at gyfalaf, does dim arian cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref, felly does dim dyraniadau cyfalaf o fewn y gyllideb hon. Byddaf yn amlinellu rhagor o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn ein cyllideb derfynol, wedi'u halinio â'n blaenoriaethau.
Gan droi at yr wybodaeth a ddarperir fel rhan o'r pecyn cyllideb eleni, mae'n bwysig iawn cofio ein bod wedi darparu cyllideb aml-flwyddyn hyd at 2025 y llynedd, ochr yn ochr ag adolygiad cwbl gynhwysfawr o ddyraniadau cyfalaf. Cyllideb un flwyddyn oedd eleni yn cadarnhau newidiadau i setliad y gyllideb fel rhan o ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref. Dylai'r ddau becyn cyllideb hyn—yr aml-flwyddyn a'r flwyddyn sengl—gael eu hystyried gyda'i gilydd yn glir, a bydd hyn yr un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf oni bai bod rhai newidiadau sylfaenol i'n setliad cyllideb. Mae dogfennau'r gyllideb eleni yn canolbwyntio ar y newidiadau pwysig rydyn ni wedi'u gweithredu ar gyfer y rownd gyllideb hon, yn hytrach nag ail-ddatgan yr hyn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, wedi bod yn destun craffu ac wedi ei drafod gan y Senedd hon. Rwyf, wrth gwrs, yn agored i drafodaethau pellach i archwilio pa wybodaeth ychwanegol y mae pwyllgorau a rhanddeiliaid yn credu y byddai'n cynorthwyo'r gwaith craffu.
O ran cyflog, rydym yn cydnabod cryfder y teimladau a fynegwyd gan staff yn y pleidleisiau hyn ar gyfer gweithredu diwydiannol. Credwn y dylai ein holl weithwyr yn y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud. Yn anffodus, mae ein setliad ariannol yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i ymateb i'r heriau sylweddol iawn y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr yn eu hwynebu ar draws Cymru. Ni allwn godi digon o gyllid trwy'r pwerau cyfyngedig sydd gennym i ddarparu codiad cyflog sy'n cyfateb â chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus. Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU i roi codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y DU.
Ond rwy'n falch, yn y dyddiau diwethaf, ein bod wedi gwneud cynnydd yn ein trafodaethau gyda phartneriaid undebau llafur sydd wedi arwain at oedi'r rownd bresennol o streiciau iechyd i raddau helaeth tra bod aelodau undebau llafur yn ystyried y cynnig diweddaraf yr ydym wedi'i wneud i ddatrys yr anghydfod. Bu angen gwneud dewisiadau caled i ddod o hyd i'r arian ar gyfer cost y cynnig cyflog hwn am eleni. Rydym wedi tynnu popeth y gallwn ni o gronfa wrth gefn Cymru ac rydym yn chwilio am danwariant o bob rhan o'r Llywodraeth i roi'r cynnig hwn at ei gilydd. Mae defnyddio'r arian yma i gynyddu cyflogau nawr yn golygu ein bod ni'n wynebu dewisiadau anoddach fyth yn y dyfodol, ond rydyn ni'n ffyddiog mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Wrth gloi, hoffwn gynnig fy niolch i bawb sy'n ymwneud â llunio a chraffu ar y gyllideb ddrafft hon. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses, ac er fy mod yn cytuno gyda'r mwyafrif llethol o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mae rhai y bydd angen i mi eu hystyried yng ngoleuni'r cyfyngiadau yr ydw i wedi'u nodi heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion holl adroddiadau pwyllgor y Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 7 Mawrth.
I gloi, mae hon yn gyllideb ar gyfer amseroedd caled ac yn un pryd gwnaethpwyd dewisiadau anodd. Fodd bynnag, wrth gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl, rydym wedi darparu'r sicrwydd a'r eglurder sydd ei angen i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau.