Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n cydnabod y cefndir ariannol anodd y mae'r gyllideb eleni wedi'i drafftio ynddo. Er hynny, mae rhai arwyddion cadarnhaol y bydd y lefelau uchel presennol o chwyddiant nawr yn dechrau gostwng yn ystod eleni. Diolch i'r camau pendant a gymerwyd gan Brif Weinidog y DU a'r Canghellor, mae Banc Lloegr bellach yn awgrymu y bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn fyrrach ac yn fasach na'r hyn a dybiwyd ar y dechrau.
Roedd rhai o'r penderfyniadau a gymerwyd yn anodd, rydyn ni'n gwybod, ond nhw oedd y feddyginiaeth oedd ei hangen arnom i wella iechyd cyllid y DU. Nawr mae angen i Weinidogion yma, yn y lle hwn, yng Nghymru, ddechrau ymdrin yn iawn â'r heriau enfawr y mae'r wlad hon yn eu hwynebu a rhoi'r gorau i chwilio am bobl eraill i'w beio. Oherwydd gellir goresgyn heriau, ac os ydyn ni'n mynd i greu'r Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld, yna mae angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a rhoi trefn ar bethau yma.
Llywydd, rydyn ni'n gwybod beth yw'r materion uniongyrchol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Rydym yn trafod y rhain yma wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i'r gyllideb hon ymdrin â'r pwysau uniongyrchol y mae cymdeithas yn eu hwynebu, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein gweithredoedd a sicrhau ein bod yn cyflawni'r rhain. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall hyn, ac mae meysydd yn y gyllideb ddrafft yr wyf i'n eu croesawu yn gyffredinol, fel yr arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, y rhyddhad ardrethi annomestig ychwanegol i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, a hefyd y cynnydd yn y setliad llywodraeth leol.
Ond, er gwaethaf hyn, mae meysydd yn y gyllideb ddrafft lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi cymaint o bobl, fel yr ydym newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fel y toriad mewn termau real yn y gyllideb addysg. Yna mae'r toriad mewn termau real yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. A pheidiwn ag anghofio mai'r unig Lywodraeth ym Mhrydain i dorri cyllideb y GIG mewn gwirionedd oedd Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn 2012. Ac rydyn ni'n gwybod hyd yn oed cyn y pandemig, fod y Llywodraeth Lafur dim ond yn gwario tua £1.05 o'r £1.20 roedden nhw wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU am bob £1.00 oedd yn cael ei wario yn Lloegr, ar addysg a'r gwasanaethau iechyd yma. Mae pobl Cymru angen gwybod lle mae'r arian ychwanegol yna wedi cael ei wario.
Ceir cyhoeddiadau llawn bwriadau da, megis y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chodiad cyflog athrawon, ond gwyddom y bydd disgwyl i gynghorau ariannu'r mwyafrif helaeth o'r cynnydd hwn o'r grant cymorth refeniw, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn a darparu cyllid uniongyrchol i alluogi'r rhain, sy'n golygu y bydd adnoddau y mae mawr eu hangen yn cael eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau rheng flaen. Unwaith eto, mae hwn yn fater sydd wedi ei godi gan gynghorau ar sawl achlysur pan ddywedir wrthyn nhw, 'Mae yn eich setliad chi', sydd dim ond yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol.
Ac yna mae cyllid arferol hoff brosiectau, megis: y comisiwn cyfansoddiadol—siop siarad un ffordd; miliynau yn cael eu gwario ar botsian diangen ynghylch y polisi etholiadau a mwy o wleidyddion, sy'n tynnu arian o wasanaethau cyhoeddus a'i ganolbwyntio yma ym Mae Caerdydd; heb sôn am bethau fel cynlluniau treialu incwm sylfaenol cyffredinol a chyfyngiadau cyflymder 20 mya diofyn cyffredinol. O fod yn Llywodraeth sydd wedi galw'r union gyllideb hon yn 'Gyllideb ar gyfer amseroedd caled', nid yw'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion yn canolbwyntio'n llwyr ar yr amseroedd caled hyn, nag yw hi?
I'w roi'n syml, Llywydd, mae angen cynllun sy'n canolbwyntio ar y problemau uniongyrchol y mae pobl a busnesau Cymru yn eu hwynebu a dyma lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gall y gyllideb ddrafft wella. Gwyddom, o ganlyniad i gyllideb hydref 2022, y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. Gadewch i ni wario'r arian hwnnw ar gyflawni blaenoriaethau pobl yn lle ar yr hyn rydw i wedi'i grybwyll yn gynharach.
Yn ei chyllideb ddrafft, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailflaenoriaethu tua bron i £90 miliwn o gynlluniau adrannol presennol er mwyn, a dyfynnaf,
'ailbennu ffocws ein hadnoddau cyfyngedig i roi sylw i’r meysydd â'r angen mwyaf.'
Mewn cyllideb o bron i £23 biliwn, credwn y gallai'r gwaith ailflaenoriaethu hwn fod wedi mynd ymhellach i alluogi ffrydiau ariannu presennol i wneud mwy. Fel grŵp, rydym wedi nodi ffrydiau ariannu ychwanegol gwerth dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf y gellid eu hailganolbwyntio yn y tymor uniongyrchol, ynghyd ag addasiadau i rai cyllidebau presennol a fyddai'n gost niwtral, ond yn helpu'n sylweddol tuag at helpu pobl gyda'r heriau costau byw, cefnogi busnesau i greu swyddi a ffynnu, a chlirio'r ôl-groniadau yn ein gwasanaeth iechyd. Mae angen ailflaenoriaethu rhai ffrydiau ariannu presennol nes bod y pwysau sy'n ein hwynebu yn dechrau lleddfu a bod gwasanaethau mewn sefyllfa sefydlog unwaith eto.
Er hynny, mae'n anodd canfod lle mae'r holl arian yma'n cael ei wario. Yn sicr dwi wedi ei chael hi'n anodd gweld glo mân y gyllideb hon. Yn fy rôl flaenorol o fewn y cyngor, gallwn ddeall pob elfen o'r gyllideb, ond dim ond Gweinidogion yma sy'n gwybod lle mae pocedi cyllid ychwanegol posib yn gorwedd. Ond gadewch i ni fod yn onest, faint o'r £350 miliwn o gyllid gweinyddu canolog a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft sy'n cael ei wario ar gyflawni blaenoriaethau pobl mewn gwirionedd? Sut mae gwario £6 miliwn ar bolisi etholiadau, £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol, neu dros £8 miliwn ar gysylltiadau rhyngwladol—