4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:31, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rydym yn anghytuno'n llwyr. Rydyn ni'n eich annog i ddarllen adroddiad Melin Drafod, a gafodd ei ddrafftio gan aelodau o'r Blaid Lafur, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a phobl nad oedden nhw o unrhyw blaid, a ddaeth i'r casgliad nad oes unrhyw rwystr cyllidol i Gymru rhag dod yn genedl annibynnol mewn gwirionedd, a bod manteision enfawr o ran y math o gymdeithas deg a ffyniannus yr ydym eisiau ei gweld. Ond nid dyna yr ydym yn ei drafod heddiw, Llywydd. 

Ar hyn o bryd, ein safbwynt ni yw hyn: y dewis yr ydym yn ei wynebu yw a ddylid defnyddio'r pwerau sydd gennym, neu dim ond derbyn yr amlen ariannol a basiwyd i ni o San Steffan yn y bôn. Y broblem gyda'r llwybr olaf yw, i bob pwrpas, ein bod ni'n wynebu naill ai'r senario gwaethaf—cyni rhif 2 o dan y weinyddiaeth Geidwadol bresennol—neu, ar y gorau, gyda newid Llywodraeth, gwariant cyhoeddus gwastad. Ar ôl degawd a mwy o gyni, pan fo ein gwasanaethau cyhoeddus yn crefu am fuddsoddiad, mae Syr Keir Starmer wedi dweud, onid yw e, yn ddiweddar, ar wahân i'r ymrwymiadau cyfalaf uchelgeisiol, rhaid cyfaddef, o ran buddsoddiad yn yr economi werdd, ni fydd arian newydd—nid fy ngeiriau i, ei eiriau ef—a bod angen i bobl feddwl am agenda Llafur fel un degawd, oherwydd ni fydd buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y pum mlynedd gyntaf. Mae hwnnw'n ogwydd mwy ceidwadol hyd yn oed na Llafur Newydd ym 1997, a oedd yn addo cadw at gynlluniau gwario'r Torïaid am y ddwy flynedd gyntaf. Yn y bôn, mae'n bum mlynedd o ddim arian sylweddol ychwanegol.

Mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn agosach nag y maen nhw'n cyfaddef o ran y brif her ariannol yr ydym yn ei hwynebu; maen nhw'n cynnwys gwahanol fathau o obaith ofer. Mae'r Torïaid yn esgus ei bod hi'n bosib torri trethi, ac ar yr un pryd, cynnal 'ansawdd' gwasanaethau cyhoeddus—rwy'n rhoi hwnnw mewn dyfynodau. Mae Llafur yn dweud y gall wella gwasanaethau cyhoeddus heb wario na threthu yn fwy. Nid yw'r naill blaid na'r llall yn barod i ddweud y gwir anodd, hyd yn oed gyda diwygiad—diwygiad angenrheidiol—ac arloesedd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r iechyd a'r gofal sydd ei angen ar boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym yn gofyn am fuddsoddiad. Rydym wedi cael system gofal cymdeithasol sydd wedi'i thanariannu'n ofnadwy, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers cenhedlaeth. Rydym wedi llwyddo rywsut gyda system gofal iechyd sy'n dirywio'n raddol hyd at yn ddiweddar. Roedd y GIG yn fregus ac yn gwaethygu—argyfyngau'r gaeaf yn dod yn rhywbeth arferol, y cynnydd mewn disgwyliad oes yn arafu, marwolaethau y gellir eu hosgoi yn codi, anghydraddoldebau iechyd yn gwaethygu. Roedd y GIG yn ei hanfod, er ei fod yn ei chael hi'n anodd, yn dal i allu cymryd y straen i raddau helaeth, yn bennaf oherwydd ymdrechion arwrol y gweithlu. Ond mae'r cyfuniad o'r pandemig a'r argyfwng costau byw, ynghyd â 12 mlynedd o gyni, yn golygu bod y system iechyd a gofal gyfan nawr yn gwegian, ac oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical, mae'n mynd i chwalu. Dyna'r gwir plaen.

Dyna'r gwir plaen sydd wrth wraidd yr anghydfod cyflog presennol, nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig, neu hyd yn oed â chyflog yn bennaf, os siaradwch chi â'r bobl ar y llinellau piced; mae'n ymwneud â system gofal iechyd sy'n fregus a gweithlu ym maes iechyd a gofal sydd wedi blino'n lân ac sydd ar dorri. Mae 12 mlynedd o gyni wedi golygu gostwng cyflogau real i'r gweithlu a salwch cynyddol i'r cleifion, ac erbyn hyn y GIG ei hun sydd â salwch cronig. Gyda'r boblogaeth sy'n heneiddio ac yn clafychu'n gyflym, gyda degawd o danfuddsoddi mewn technoleg, a bellach rhestrau aros yn chwyddo, a gweithlu sy'n teimlo nad yw'n cael ei werthfawrogi, rydym wedi creu ein hargyfwng ein hunain. Roedd yno i'w weld, onid oedd? Rydyn ni i gyd yn gwybod hyn. Roedd yno'n amlwg yn y pandemig o ran diffyg capasiti yn y GIG, y prinder gwelyau, y prinder offer, y prinder gweithwyr a'n harweiniodd i sgrialu i wneud yn iawn am y diffygion hyn, sy'n sicr wedi cyfrannu at y cyfraddau marwolaeth uwch a welsom yma o'u cymharu â'n cymdogion Ewropeaidd.

Er mor anodd, credwn mai nawr yw'r amser, Gweinidog, i fod yn onest gyda'r bobl. Nid arian yn unig, fe wyddom, yw'r ateb, ond hebddo, nid oes unrhyw ffordd allan o'r argyfwng hwn. Y bobl a fydd yn talu'r pris uchaf yn y pen draw fydd yr union rai ar yr incwm isaf—nhw sydd bob amser yn fwyaf dibynnol ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus. Edrychwch ar yr holl dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ei chynhyrchu yn nhermau anghydraddoldebau iechyd. Mae toriadau ym maes iechyd a gofal yn effeithio ar y rhai sydd ar incwm is yn fwy na neb arall; dydyn nhw ddim yn gallu dianc rhag eu dibyniaeth ar wasanaeth cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn gallu mynd yn breifat. Byddan nhw'n talu os na fyddwn ni'n gweithredu nawr. Byddan nhw'n talu, nid gydag arian, ond gyda bywydau byrrach a gyda bywydau mwy poenus. Dyna'r realiti plaen, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar eu cyfer nhw.