Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 7 Chwefror 2023.
Wrth gyflwyno'r gyllideb ddrafft i'r Senedd, fe soniodd y Gweinidog mai hon oedd un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli. Mae hynny am ei bod yn gyfnod o gyni, yn gyfnod o dlodi, ac yn gyfnod o argyfwng nas gwelwyd ei debyg ers degawdau.
Yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, mae nyrsys ac athrawon ymhlith y miloedd sy'n gorfod troi at fanciau bwyd. Mae mwy a mwy o bobl yn syrthio i ddyled, dyled argyfyngus. Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru nad ydyn nhw erioed wedi gweld cyfran uwch o bobl mewn diffyg o ran eu cyllidebau aelwyd—bron i hanner y rhai sy'n dod atynt am gyngor.
Mae nifer y rhai sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn arwydd arall o'r cyflwr yma o argyfwng. Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth helpu mwy o bobl gyda digartrefedd eleni nag yn y bum mlynedd diwethaf. Mae menywod, plant, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd, gofalwyr, rhieni sengl, pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn dioddef anghydraddoldebau economaidd mewn modd anghymesur.
Ydy, mae'n anodd sicrhau bod y gefnogaeth yno i'r rhai sydd fwyaf ei hangen, bod gan y gwasanaethau sy'n darparu'r gefnogaeth honno yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni hynny, bod y tyllau enfawr sy'n bodoli yn y rhwyd ddiogelwch, sydd wedi ei rhwygo'n racs gan Dorïaid didostur a diegwyddor San Steffan, yn cael eu llenwi. Ydy, mae'n anodd. Ond, gwneud y penderfyniadau anodd yw swyddogaeth llywodraeth, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw gwasanaethu pobl Cymru, ystyried eu hanghenion, gwarchod eu hiechyd a'u hurddas, a sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at bob cyfle a gwasanaeth, gan gynnwys gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy'r lens yma rhaid craffu ar y gyllideb ddrafft sydd ger ein bron. Dyna pam y mae ein gwelliant ni'n galw am roi'r modd i ni wneud mwy o'r hyn sydd angen ei wneud. Y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar y gefnogaeth y mae ein gwasanaeth iechyd a gofal yn ei chynnig a chymorth ariannol ychwanegol yw'r rhai sydd mwyaf mewn angen, y rhai sydd heb ddewisiadau, heb gronfa fach wrth gefn, neu ail dŷ, heb fodd i gadw pen uwchben y dŵr sydd mor ofnadwy o uchel.
Mae'r Llywodraeth wedi datgan bod y gyllideb hon yn un sy'n blaenoriaethu'r rhai sydd mwyaf mewn angen. Mae gwariant pob ceiniog felly yn gwbl dyngedfennol, achos mae bywydau pobl bellach mewn perygl. Dyna farn ymchwil Which? ar effaith yr argyfwng costau byw yng Nghymru a gyhoeddwyd ddoe ac a drafodwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hawliau defnyddwyr rwy'n ei gadeirio. Mae 78 y cant o bobl yng Nghymru'n torri lawr ar wres, a 18 y cant yn bwyta llai o brydau poeth.
Yn yr un drafodaeth, fe fynegwyd pryder bod y cynnydd yn lefel y gronfa cymorth dewisol, er i'w groesawu, yn gyllid i helpu pobl mewn argyfwng, a bod angen blaenoriaethau hefyd gwariant ataliol—cynlluniau fel cynllun cymorth tanwydd Cymru, sydd wedi cael ei dorri'n gyfan gwbl. Rhybuddiwyd, er bod y cynllun yn dod i ben, nid yw'r angen yn dod i ben, ac fe fydd yr angen yn un mwy dybryd y gaeaf nesaf, yn ôl rhagolygon Cyngor ar Bopeth. A bydd goblygiadau'r dyfnder yna o angen a'i effaith ar iechyd a lles pobl gyda ni am genedlaethau. Nid yw'r gyllideb hon yn cyflwyno cynllun i atal hynny.
Siomedig hefyd yw gweld diffyg buddsoddiad yn ein pobl ifanc mwyaf anghenus sydd am barhau â'u haddysg. Byddai ein gwelliant yn medru sicrhau bod y lwfans cynhaliaeth addysg, er enghraifft, yn gallu cynnig lefel weddus o gefnogaeth. Ac er bod cynnydd wedi bod yn y grant cynhaliaeth, dyw myfyrwyr ddim yn medru cael cymorth gan nifer o'r taliadau cymorth costau byw eraill sydd ar gael. Sôn am fysus, os ŷch chi'n fyfyriwr dros 21 oed, cewch chi ddim gostyngiad o gwbl ar eich tocyn bws, ac mae rhent myfyrwyr, wrth gwrs, yn parhau i godi gan greu argyfwng costau addysg.
Mae ein galwadau i ehangu a chynyddu'r EMA wedi eu hadleisio gan adroddiad craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac wrth sôn am y bwlch sydd yna mewn gwariant ar gefnogaeth costau byw eleni, sef £116 miliwn, mae adroddiad craffu’r Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol yn nodi bod
'angen amlwg i edrych ar atebion cynaliadwy, tymor hwy i’r argyfwng costau byw', fel soniodd Jenny Rathbone, ein Cadeirydd.
Rwyf wedi dadlau ac, yn wir, rwyf wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon i'r alwad am system fudd-daliadau gydlynol Gymreig. Nawr yw'r amser i gyflymu'r gwaith o sicrhau bod pob ceiniog o gefnogaeth yn cyrraedd pocedi'r rhai sydd ei angen, a hynny yn ddi-ffael ac yn ddiffwdan.
Wrth gloi hoffwn dynnu sylw at gasgliadau mwyaf difrifol y ddau bwyllgor dwi'n eistedd arnynt, sef hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef bod yna ddiffyg eglurder sut y bydd y gyllideb yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd yn arbennig o debygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Hyn yn y genedl ble mae tlodi plant ar ei lefel uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru—