4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:26, 7 Chwefror 2023

Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru o'r adnoddau a'r grymoedd sydd eu hangen arnom, oes, mae angen gwneud penderfyniadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hynny yn anos drwy beidio â sicrhau yr adnoddau sydd angen arni drwy drethiant teg, cymesur a chyfiawn i oresgyn y caledi cywilyddus sy'n creithio ein cymunedau. Rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi ein gwelliant.