4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:55, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nawr, rwy'n deall ei bod hi'n amhosibl drafftio cyllideb sy'n plesio pawb, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae cyllideb yn adlewyrchiad o'ch gwleidyddiaeth, ac mae gwleidyddiaeth, wedi'r cyfan, yn ymwneud â blaenoriaethau. A hoffwn siarad am un o'r blaenoriaethau hynny sy'n cael ei arddel yn aml—sef mynd i'r afael â digartrefedd. Mae digartrefedd yn bla a ddylai neb mewn gwlad ddatblygedig a theg gael ei adael yn ddigartref, ond y gwir trist yw bod pobl yn ddigartref yma yng Nghymru. Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd fy nghymhorthfa yn llawn apwyntiadau o bobl a oedd yn dod i ddweud eu bod yn ddigartref, o deuluoedd ifanc i bobl yn eu hwythdegau. Mae mynd i'r afael â digartrefedd a’i atal nid yn unig yn beth da ynddo'i hun, ond mae hefyd yn fesur ataliol sy'n arbed arian, boed yn arian yn ein hawdurdodau lleol neu arian yn y gwasanaeth iechyd ac yn rhywle arall. Mae ymchwil wedi dangos bod y gwasanaethau grant cymorth tai yn darparu arbediad net—