4. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 7 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:22, 7 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Ie. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dim ond eisiau gwirio oeddwn i, mewn gwirionedd, fy mod i wedi clywed yn gywir yn gynharach, a hoffwn ofyn am ddyfarniad, Dirprwy Lywydd, ynglŷn ag a oedd yr iaith a ddefnyddiwyd ac un ymadrodd yn benodol a ddefnyddiwyd gan Hefin David yng nghwrs y ddadl yn dderbyniol. Wna i ddim ailadrodd y geiriau, ond roedden nhw'n eithafol, yn ansensitif, ac mewn lleoliad gweithle, gellid dadlau eu bod yn gwahaniaethu. Mewn gwirionedd, dyfarnodd barnwr tribiwnlys cyflogaeth yn 2021 bod yr union yr un sylw yn amhriodol ac amhroffesiynol. Bu iddo iselhau'r ddadl, yn fy marn i, a nodweddid fel arall gan anghytundeb parchus ac mae'n sarhad ar urddas y Senedd a'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.