Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 7 Chwefror 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr yr holl sylwadau sydd wedi'u gwneud gan Aelodau heddiw a'r ysbryd y maen nhw wedi'u gwneud ynddo. Rwyf wedi nodi heddiw pam fy mod yn credu bod y Bil hwn yn gam pwysig wrth ddiwygio'r byd amaethyddol yma yng Nghymru ac rwyf wedi gwrando'n astud iawn ar farn ac argymhellion y tri phwyllgor ac, wrth gwrs, yr Aelodau eraill hefyd.
Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith ar gyfer cyflawni pob cymorth amaethyddol yn y dyfodol, ac mae gennym hefyd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, sef y cynllun cymorth cyntaf i'r dyfodol a phrif ffynhonnell cymorth gan y Llywodraeth yn y dyfodol i ffermwyr ledled Cymru. Mae angen sicrhau bod mynediad i'r cynllun ffermio cynaliadwy ar gael i bob ffermwr sy'n gymwys yng Nghymru. Cyfeiriodd aelodau, gan gynnwys Jane Dodds, at ffermwyr tenantiaid, ac rwyf wedi dweud ar hyd yr amser os nad yw'n hygyrch i ffermwyr tenant, yna ni fydd yn gweithio. Mae'n bwysig iawn bod y cynllun yma yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ledled Cymru.
Rwyf wedi gweithredu nifer o weithgorau gyda ffermwyr i ddeall y cyfleoedd sy'n bodoli, ond hefyd i weld pa rwystrau sydd yna. Felly, gweithgorau mewn cysylltiad â thenantiaid, gweithgorau mewn cysylltiad â newydd-ddyfodiaid, fel y soniodd Jane Dodds eto, a gweithgorau ar dir comin i wneud yn siŵr bod gennym y sector ffermio bywiog yna yma yng Nghymru.
I ailadrodd fy sylwadau agoriadol, does gen i ddim amser i fynd drwy'r holl argymhellion nac i ymdrin â chwestiynau pob Aelod, ond byddaf yn sicr yn gwneud fy ngorau i ymdrin â llawer ohonyn nhw. Byddaf yn dechrau gyda Paul Davies, fel Cadeirydd pwyllgor ETRA. Gofynnodd am eglurder pellach ar gwmpas y gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau ategol. Gwn mai dyna un o'ch argymhellion i mi, a byddaf yn rhoi eglurder pellach ar gwmpas y gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau ategol o fewn y memorandwm esboniadol. Felly, nid oes angen gwelliant. Mae cwmpas gweithgaredd ategol yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth ac maen nhw'n gyflenwol i'r gweithgareddau sy'n cael eu dal o dan y diffiniad o 'amaethyddiaeth'. Felly, er bod 'gweithgareddau ategol' yn weddol eang, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, mae er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i allu ymateb i ddatblygiadau yn y sector yn y dyfodol a galluogi'r gefnogaeth honno i fod yn fwy cynhwysol yn y gadwyn gyflenwi.
Soniodd sawl Aelod, gan gynnwys Paul Davies, am y safonau gofynnol cenedlaethol. Maen nhw eisoes yn bodoli yn y gyfraith, a'r hyn rwyf i wedi gofyn i swyddogion ei wneud yw archwilio pa un a yw deddfwriaeth newydd—boed hynny'n ddeddfwriaeth sylfaenol neu'n is-ddeddfwriaeth—yn ofynnol i sefydlogi'r waelodlin reoleiddio bresennol, er enghraifft, a'r rheoliadau.
Huw Irranca-Davies—eto, byddaf yn ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad—fe wnaethoch chi sôn am y cymal machlud sydd yn Neddf Amaeth y DU, a fydd yn amlwg yn dod i ben yn 2025. Rwyf wedi datgan yn y gorffennol na fyddwn yn rhoi cymal machlud ar y Cynllun Cymorth ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol. Rwy'n gwybod eich bod wedi gwrando ar—sori, fe wnaeth pwyllgor Paul Davies, rwy'n gwybod, wrando ar—sesiwn dystiolaeth eithaf da, roeddwn yn credu, gan randdeiliaid ar gynlluniau pontio a darpariaeth machlud ar gyfer y Bil. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod yr undebau amaeth a sefydliadau amgylcheddol wedi cytuno na ddylai fod ymyl clogwyn mewn cefnogaeth ariannol, ac rwyf wastad wedi dweud hynny, ond roedd yna farn amrywiol ar yr angen i ddeddfu ynghylch cyfnod pontio neu ynghylch cyfnod machlud, felly—. Rwy'n sylwi nad ydych yn cefnogi darpariaeth machlud. Rwy'n credu y bydd manylion pellach am sut, y system newydd o gymorth amaethyddol, wrth gwrs yn ffurfio rhan o'r ymgynghoriad cynllun ffermio cynaliadwy terfynol.
Soniodd Huw Irranca-Davies hefyd am y diffiniad o reoli tir yn gynaliadwy. Mae hynny eisoes wedi'i ddiffinio yn y Bil gan y pedwar amcan a'r ddyletswydd rheoli tir cynaliadwy. Mae amcanion a dyletswydd rheoli tir yn gynaliadwy wedi eu llywio gan ddiffiniad y Cenhedloedd Unedig, a ddatblygwyd yng nghyd-destun deddfwriaethol penodol yng Nghymru, yn amlwg, o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Oherwydd bod gennym y ddeddfwriaeth eisoes, mae wedi bod yn eithaf hawdd bachu ynddi a chael y cysondeb hwnnw. Ond hefyd rydyn ni wedi cael ymgynghoriad ac ymgysylltu rhanddeiliaid helaeth ynghylch hynny hefyd—